Bu Jane Davidson yn ymweld â disgyblion a staff Ysgol Bryn Celynnog ym Meddau, Pontypridd, er mwyn cyflwyno iddynt eu trydedd Baner Werdd Eco-ysgolion.
Dywedodd Ms Davidson eu bod yn esiampl ardderchog, a’i bod yn gobeithio y byddai pob ysgol arall yng Nghymru yn eu dilyn.
Mae'n bleser gennyf fod yma i longyfarch y disgyblion ar eu llwyddiant. Rwy'n gobeithio y bydd pob ysgol yng Nghymru yn chwifio Baner Eco-ysgolion erbyn 2010, ac felly rwy'n annog pob ysgol ac awdurdod lleol i gymryd rhan yn y fenter.
Mae'r ysgol yn un o ddim ond 23 o ysgolion yng Nghymru sydd wedi cael tair Baner Werdd. Llwyddodd i gyrraedd y garreg filltir hon drwy:
• Ailgylchu papur, caniau, poteli PET a chardfwrdd
• Creu gardd synhwyraidd gyda phwyslais ar ailddefnyddio deunyddiau
• Meithrin cysylltiadau ag Uganda
• Cynnwys "milltir fwyd" yn y cwricwlwm
• Parhau i ddatblygu bwydlen iach
• Cynnal Clwb Rhandiroedd
• Gwneud gwaith ar rywogaethau mewn gwarchodfa natur
• Gweithio mewn partneriaeth â StreetCare; tîm ailgylchu Rhondda Cynon Taf; llyfrgelloedd; y tîm diogelwch ar y ffordd; Cadw Cymru’n Daclus; a busnesau lleol.
Caiff menter y Faner Eco-ysgolion ei threfnu gan Cadw Cymru'n Daclus ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae dros 1,800 o ysgolion yng Nghymru wedi cofrestru, ac mae mwy na 120,000 o ddisgyblion wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol i hybu dinasyddiaeth fyd-eang.
Aeth Ms Davidson ati wedyn i annog disgyblion yn yr ysgol i gystadlu yng nghystadleuaeth Hyrwyddwyr Newid yn yr Hinsawdd Cymru.
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gobeithio penodi pedwar Hyrwyddwr sydd rhwng 11 ac 18 oed. Yn ystod eu blwyddyn fel Hyrwyddwyr yn 2008, byddant yn llefarwyr ar y newid yn yr hinsawdd a byddant hefyd yn cael bod yn rhan o daith i Ewrop i gasglu gwybodaeth. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth yw 9 Tachwedd. Ceir manylion y gystadleuaeth ar y wefan www.cymru.gov.uk/ccc4w.
22 Hydref 2007











