Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Diwylliant a chwaraeon

Tudalen 1 o 23 « Blaenorol| Tudalen: 1 2 3 4 5 | Nesaf »
Yn dangos:
20 Mai 2013
Mae John Griffiths wedi defnyddio’r cyfarfodydd y bore ’ma gyda Cyfarwyddwr BBC Cymru a Chyfarwyddwr Ofcom Cymru i amlinellu ei uchelgais am ddiwydiant darlledu iach yng Nghymru.
 
02 Mai 2013
John Griffiths a Lesley Griffiths, yn gwisgo sgarffiau eu timau pêl-droed wrth i Casnewydd a Wrecsam chwarae yn erbyn ei gilydd y dydd Sul yma yn Stadiwm Wembley am le yn y Gynghrair Pêl-droed.
 
02 Mai 2013
I ddathlu pen-blwydd cyntaf Llwybr Arfordir Cymru bydd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths, yn ymuno â’r Cerddwyr heddiw wrth iddynt gerdded rhan o’r llwybr yn Cydweli.
 
25 Ebrill 2013
Bydd John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant yn nodi pen-blwydd cyntaf agoriad swyddogol Llwybr Arfordir Cymru drwy gerdded rhan o’r llwybr yr wythnos nesaf (2 Mai).
 
18 Ebrill 2013
Mae safle hanesyddol a reolir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn awr yn edrych ymlaen at ddyfodol disglair, yn dilyn cwblhau rhaglen waith adnewyddu cyffrous.
 
11 Ebrill 2013
Heddiw, cyhoeddodd John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon bod naw o orsafoedd radio cymunedol ledled Cymru wedi derbyn grantiau sy’n arwain at gyfanswm o £100,000.
 
10 Ebrill 2013
Mae niferoedd ymwelwyr Amgueddfa Cymru yn parhau i gynyddu, gyda record newydd o 1.75 miliwn yn cael ei gosod yn 2012-13 (9% uwchlaw’r targed).
 
03 Ebrill 2013
Mae John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant, wedi cyhoeddi  fuddsoddiad o fwy na £2.17 miliwn i annog mwy o bobl i ymweld â’u hamgueddfeydd, eu harchifdai a’u llyfrgelloedd lleol.
 
02 Ebrill 2013
Mae’r Deyrnas Gopr, a agorodd y llynedd, wedi’i rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Treftadaeth ac Amgueddfeydd y Guardian 2013. Mae’n un o bum atyniad ar y rhestr fer a dyma’r unig un o Gymru.
 
25 Mawrth 2013
Heddiw (Dydd Llun, Mawrth 25) cyhoeddodd John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, bod chwech o aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cael eu hailbenodi.
 
22 Mawrth 2013
Mae John Griffiths yn cyfarfod ac uwch-ddirprwyaeth ddiwylliannol o dalaith Guizhou yn Tsieina, er mwyn cryfhau’r cysylltiadau diwylliannol rhwng y ddwy wlad.
 
21 Mawrth 2013
Mae John Griffiths yn ymweld â chronfa ddŵr Pontsticill ym Mannau Brycheiniog i lansio cronfa Sblash.
 
13 Mawrth 2013
Mae Huw Lewis wedi ymweld â chlwb bocsio llwyddiannus, sydd wedi derbyn buddsoddiad o £10,000 i helpu i drawsnewid yr adeilad, sydd wedi’i esgeuluso, yn fan lle y gall bocswyr ifanc ymarfer eu crefft.  
 
06 Mawrth 2013
Bydd Caerdydd yn croesawu Ras Hwylio Volvo yn 2017-18, sy’n cael ei chynnal am y 13eg tro - ar tro cyntaf erioed i’r brif ras hwylio o amgylch y byd ddod i Gymru.
 
28 Chwefror 2013
Bydd diwylliant Cymru'n hawlio’r sylw yn Tsieina ar Ddydd Gŵyl Dewi wrth i Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, fynd ar ymweliad chwe diwrnod â'r wlad
 
26 Chwefror 2013
Huw Lewis wedi pwysleisio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau mwy o gyfleoedd ym maes chwaraeon i bobl anabl ledled Cymru.
 
26 Chwefror 2013
Cafodd Becky James ei llongyfarch gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, am ennill ei dwy fedal aur dros y penwythnos.
 
07 Chwefror 2013
Nod Newid Pethe yw annog pobl ifanc a’u teuluoedd, yn enwedig y rheini sy’n dod o gefndiroedd llai breintiedig i ymddiddori yng ngwaith amgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd, mannau hanesyddol.
 
05 Chwefror 2013
Mae'r Athro Laura McAllister wedi ei hailbenodi’n Gadeirydd Chwaraeon Cymru am dair blynedd arall.
 
25 Ionawr 2013
Mae eglwys eiconig ar Ynys Môn sydd ag arwyddocâd arbennig i gariadon Cymru yn cael ei gwarchod
 
Tudalen 1 o 23 « Blaenorol| Tudalen: 1 2 3 4 5 | Nesaf »
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i