Yn ystod y digwyddiad, a gynhaliwyd yng Nghastell Caerdydd, diddanwyd y Tîm a’r gwesteion eraill gan Only Men Aloud. Hefyd, yn ystod y digwyddiad cyhoeddwyd mae Greg Smith sydd am gael y fraint o gario Baner Awstralia yn y Gemau.
Dywedodd Jane Hutt:
"Ar ran pobl Cymru a Llywodraeth Cymru, hoffwn estyn croeso cynnes iawn i Dîm Paralympaidd Awstralia. Rydyn ni’n falch iawn eich bod wedi dewis Cymru ar gyfer eich paratoadau olaf cyn Gemau Paralympaidd Llundain 2012. Gobeithio bod eich hyfforddi’n mynd yn dda!
"Mae gan Gymru gyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf - rydych wedi bod yn defnyddio rhai ohonynt yng Nghaerdydd a Chasnewydd. Rydyn ni’n lwcus iawn i gael Pwll Nofio Rhyngwladol Caerdydd, Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd, Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru a’r Trac Beiciau Cenedlaethol yng Nghasnewydd oll ar garreg ein drws.
"Mae Awstralia’n un o 13 o dimau Paralympaidd sydd wedi dewis dod i Gymru i baratoi ar gyfer y Gemau. Mae hyn ar ben yr 8 gwlad a hyfforddodd yma’r mis diwethaf cyn y Gemau Olympaidd. Mae hyn wedi bod yn gyfle gwych i Gymru arddangos yr ystod eang o gyfleusterau chwaraeon gwych sydd gennym ni yma.
"Mae sawl pencampwr Olympaidd a Pharalympaidd wedi dod o Gymru ac rydyn ni wedi ymfalchïo yn eu llwyddiannau bob un. Gobeithio bod rhai ohonynt wedi eich ysbrydoli chi yn y gorffennol! Pob lwc i chi gyd a beth am ddod nôl atom ni i ddangos eich medalau ar ôl y Gemau!"











