Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Partneriaeth Cymru-Iwerddon yn rhannu llwyfan gyda’r sêr mewn Gŵyl a ariennir gan yr UE

Mae pobl ifanc o Gymru ac Iwerddon sydd am fod yn awduron, yn berfformwyr ac yn artistiaid creadigol yn cael cyfle i serennu ochr yn ochr â rhes o enwau mawr y celfyddydau.
Dydd Mawrth 26 Mehefin 2012

Bydd rhestr o bobl nodedig yn cymryd rhan yn yr Ŵyl Lenyddiaeth Dinefwr a gynhelir am y tro cyntaf ddiwedd yr wythnos hon, gan gynnwys Julian Cope, cyn-ganwr y band Teardrop Explodes, a phrif leisydd y Super Furry Animals, Gruff Rhys.

Ochr yn ochr â Bardd y Frenhines gynt, Andrew Motion a Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke, bydd llawer o bobl ifanc sydd am ddatblygu eu doniau.  Mae’r Ŵyl yn derbyn cymorth gan brosiect a ariennir gan yr UE fel rhan o Raglen Drawsffiniol Cymru Iwerddon.

Partneriaeth yw Coracle a’i nod yw datblygu sgiliau gwell a helpu pobl greadigol yn Ne-orllewin Cymru a De-ddwyrain Iwerddon i gael swyddi ac i fod yn fwy cystadleuol. Cynhelir y digwyddiad gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Cyngor Sir Gâr, campws IT Carlow (Athrofa Technoleg) Wexford, Canolfan y Celfyddydau Wexford a Chyngor Wexford.

Mae Llenyddiaeth Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cydweithio â’r prosiect i gynnal yr ŵyl yn Llandeilo rhwng 29 Mehefin a 1 Gorffennaf.

Dywedodd Dominic Williams, swyddog datblygu Coracle:

"Mae llawer o wahanol agweddau i’r prosiect, ee celfyddydau i bobl anabl, theatr ieuenctid a chyfnewidfa celfyddydau gweledol, ond cynnal gwyliau yw ein prif weithgarwch.

"Ein nod yw clymu’r holl agweddau hyn at ei gilydd yn yr ŵyl. Rydyn ni’n gweithio’n galed gyda’n partneriaid i wneud yn siŵr eu bod nhw’n cael lle blaenllaw yn y digwyddiad.

"Mae’r enwau mawr sy’n cymryd rhan yn annog ymwybyddiaeth, ond y brif nod yw hyrwyddo ac annog ymarferwyr creadigol yng Nghymru ac Iwerddon a rhoi cyfle iddynt rannu llwyfan â’r bobl enwog hyn."

Bydd yr ŵyl a gynhelir ym Mharcdir hanesyddol Dinefwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn cynnwys Prosiect Theatr Coracle, sef cwmni ieuenctid cyffrous ac arloesol sy’n arbenigo mewn theatr gorfforol.

Bydd tua 50 o bobl ifanc o Geredigion, Sir Benfro, Abertawe a De-ddwyrain Iwerddon yn perfformio darn wedi’i ysgrifennu’n arbennig i olrhain hanes y cigfrain ar arfbais y teulu Rhys, arglwyddi Dinefwr.

Dywedodd un o aelodau Prosiect Theatr Coracle, Holly Freeman:

"Mae’r prosiect theatr yn lle diogel i ni ymarfer ein perfformiadau ac i brofi ein hunain fel artistiaid. Mae Prosiect Theatr Coracle yn ein hannog ni i gymryd risgiau ac i feddwl yn greadigol."

Fel rhan o’r prosiect Coracle mae’r ddau sefydliad Addysg Uwch sydd ynghlwm yn cynnig gradd MBA Broffesiynol mewn Rheoli’r Celfyddydau. Mae’r cymhwyster yn cynnwys cyrsiau busnes byr a galwedigaethol, gweithdai ymarferol, prosiectau cyfnewid, interniaethau a sesiynau mentora.

Mae gwefan cyfryngau cymdeithasu yn ganolog i’r prosiect gan ei bod yn rhoi cyfle unigryw i ymarferwyr creadigol ddangos eu doniau ar lwyfan amlgyfrwng.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies:

"Rwy’n blês iawn bod pobl ifanc yng Nghymru ac Iwerddon yn manteisio ar y cynllun hwn a ariennir gan yr UE a fydd yn eu helpu i ddatblygu eu doniau a’u sgiliau i sicrhau llwyddiant yn y dyfodol."

Caiff rhaglen drawsffiniol Cymru - Iwerddon ei chynnal gan Gynulliad Rhanbarthol De a Dwyrain Iwerddon (Southern and Eastern Regional Assembly (SERA)) ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Ei nod yw rhoi cymorth i brosiectau cydweithredol i roi hwb i sgiliau a thwf economaidd.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Gwefannau

Coracle

Tagiau

Diwylliant a chwaraeon 26 Mehefin 2012 Y Gogledd
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i