Ar ôl misoedd o chwaraeon cwbl anhygoel dros yr haf mae Cymru wedi dangos unwaith eto ei bod yn gallu cyflawni mwy o lawer na’r disgwyliadau ohoni. Llwyddwyd i gael cyfanswm o 21 fedalau hyd yma gan ein hathletwyr Olympaidd a Pharalympaidd tuag at y nifer uchaf erioed ar gyfer TîmGB a ParalympicsGB.
Dywedodd y Gweinidog,
“Mae’n anrhydedd o’r mwya cael gwahoddiad i fod yn rhan o’r seremoni gwobrwyo a hynny yn y Gemau Paralympaidd fydd, mae’n siŵr, yn cael eu cofio gyda’r gorau mewn hanes. Bûm yn ffodus o gael y cyfle i fod yn bresennol mewn dwy noson o athletau gwych dros yr haf ond mae cael cyflwyno medalau yn y Stadiwm Olympaidd gogoneddus yma, i’r cystadleuwyr elît yma, yn brofiad wna i byth mo’i anghofio.”
Mae gan athletwyr F57 nam difrifol sy’n effeithio ar un goes neu sydd wedi arwain at golli cymalau. Mae’n rhaid iddyn nhw wneud iawn am y diffyg cydbwysedd sylweddol o ran pŵer o’r coesau. Bydd Nathan Stephens, Pencampwr y Byd o Ben-y-bont, yn cystadlu yn y ras.
Ychwanegodd Mr Lewis,
“Wrth reswm, byddwn i wrth fy modd petawn i’n cyflwyno medal aur i gyd-Gymro ar ddiwedd y noson ond rydw i am ddymuno’n dda i bawb sy’n cystadlu. Rydych chi i gyd wedi gweithio’n anhygoel o galed i gael eich dewis ac i gystadlu yn y Gemau Paralympaidd ac mae’n achlysur arbennig i bob un ohonoch chi.”
Bydd holl gystadleuwyr Cymru a gymerodd ran yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn cael eu hanrhydeddu mewn croeso arbennig sy’n cael ei drefnu gan Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn y Senedd ddydd Gwener, 14 Medi.
I gael rhagor o wybodaeth edrychwch ar ein gwefan, ein tudalen Facebook neu @welshgovernment ar Twitter.











