Bydd treftadaeth Cymru’n dod yn fyw i ymwelwyr ei gweld yng nghestyll, palasau a safleoedd hanesyddol eraill Cymru. Caiff y bobl leol a’r ymwelwyr gymryd cam yn ôl mewn amser i weld sut roedd ein cyndeidiau’n byw drwy gyfrwng ail-greadau canoloesol, sioeau cerdd bywiog yn yr awyr agored, digwyddiadau celf a chrefft rhyngweithiol, arddangosfeydd milwrol, teithiau o amgylch cestyll a ‘blas ar fyd yr oesoedd canol’ drwy gael picnic a sesiynau blasu bwyd.
Dywedodd Ffion Reynolds, rheolwr digwyddiadau Cadw,
“Wrth i ddiwedd yr haf nesáu, rydyn ni’n paratoi at benwythnos gŵyl banc byrlymus ar bob un o’n safleoedd ledled Cymru. Mae gennyn ni ystod o ddigwyddiadau sy’n addas i’r teulu i gyd ac sy’n dod â storïau dramatig ein safleoedd yn fyw. Nid yn unig y caiff eich plant eu difyrru, ond mi fyddan nhw’n dysgu hefyd. Dyma’r cyfle perffaith i weld yr hanes sydd ar garreg y drws.”
Cadw yw’r sefydliad sy’n gofalu am 128 o henebion Cymru. Gallwch weld uchafbwyntiau’r digwyddiadau isod ac mae rhestr lawn ar gael ar wefan Cadw.











