Mae’r prosiect yn fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri sydd wedi cyfrannu £105,766 a £99,900 yn y drefn honno.
Nod y cynllun yw gwneud y casgliadau hanesyddol yn fwy hygyrch i’r cyhoedd drwy helpu amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol ledled Cymru i sefydlu partneriaethau gyda sefydliadau cenedlaethol fel bod modd benthyca eitemau o gasgliadau cenedlaethol iddynt a’u harddangos yn lleol. Bydd y cyllid yn helpu gyda’r gost o drefnu arddangosfeydd yn ogystal â newidiadau a gwelliannau i adeiladau i’w gwneud yn fwy addas ar gyfer crair sydd ar fenthyg.
Mae Amgueddfa Cymru yn bartner pwysig hefyd yn y cynllun. Bydd yn cynnig gwasanaethau arbenigol i’r amgueddfeydd lleol sy’n cymryd rhan i annog rhannu sgiliau ac arbenigedd yn ogystal â benthyca casgliadau i nifer o’r arddangosfeydd.
Yr amgueddfeydd fydd yn elwa fydd:
- Castell Cyfarthfa, fydd yn derbyn £50,000 i greu man arddangos parhaol o fewn Castell Cyfarthfa. Arddangosfa dros dro gyntaf yr oriel newydd fydd lluniau Syr Kyffin Williams, un o arlunwyr enwocaf Cymru o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- Amgueddfa Buckley, fydd yn ehangu ei chasgliad o grochenwaith Buckley sydd wedi’u darganfod mewn cloddfa gydag eitemau sydd wedi’u benthyca o’r Amgueddfeydd Cenedlaethol yn Lerpwl. Bydd y cyllid o £49,817 yn rhoi’r cyfle i’r amgueddfa wella yr elfennau dehongli o fewn yr amgueddfa, i ddweud hanes crochenwaith Buckley o’r cyfnod Canoloesol i’r Ail Ryfel Byd ac i egluro pa mor berthnasol ydynt i bobl Buckley heddiw.
- Amgueddfa Wrecsam, fydd yn derbyn £16,200 ar gyfer prosiect fydd yn edrych ar effaith ddiwylliannol Taith Fawr Syr Watkin Williams-Wynn o amgylch yr Eidal a Ffrainc yn y 18fed Ganrif. Mae’n golygu creu a chynnal arddangosfa celf gain yn cynnwys gwaith yr arlunwyr hynny a noddwyd ganddo wedi iddo ddychwelyd.
- Amgueddfa Llangollen, sy’n cynllunio prosiect a fydd yn dod â hanes safle Abaty Glyn y Groes/Croes Eliseg yn fyw. Bydd cyllid o £39,650 yn galluogi’r amgueddfa i greu arddangosfa yn seiliedig ar y darganfyddiadau o gloddfeydd archaeolegol.
- Amgueddfeydd Y Fenni/Cas-gwent sy’n cynnal prosiect ar y cyd ar hyn o bryd am dair mlynedd i edrych ar effaith ddiwylliannol Abaty Tyndyrn a Phriordy Llanddewi Nant Hodni, gan ddiweddu gyda dwy arddangosfa yn cydredeg yn Amgueddfeydd Cas-gwent a’r Fenni. Mae cyllid o £50,000 wedi gwneud y prosiect hwn yn bosibl.
Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth:
“Mae Cyfoeth Cymru Gyfan yn brosiect gwych fydd yn caniatáu i greiriau y casgliadau cenedlaethol gael eu harddangos yn y cymunedau y maent yn adrodd eu hanes.
“Mae sicrhau bod mwy o bobl yng Nghymru yn dod i wybod am eu hanes yn ymrwymiad pwysig i Lywodraeth Cymru a bydd y prosiect hwn yn cyflawni hynny. Mae’n enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni wrth gydweithio.
“Dwi’n edrych ymlaen at weld yr arddangosfeydd ac yn dymuno pob lwc i’r amgueddfeydd gyda’u prosiectau.”
Meddai Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri:
“Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi’r cynllun Cyfoeth Cymru Gyfan ac wrth wneud hynny ein bod wedi annog amrywiaeth ehangach o amgueddfeydd a llyfrgelloedd i gynllunio arddangosfeydd gan ddefnyddio casgliadau cenedlaethol. Bydd ein cyllid hefyd yn cefnogi gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r arddangosfeydd fydd yn helpu cymunedau lleol i ddysgu a bod yn rhan o’r prosiect, gan ei rannu gyda chenedlaethau’r dyfodol.”
Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:
“Mae Amgueddfa Cymru yn gweithio gydag amgueddfeydd lleol yng Nghymru mewn sawl ffordd, gan eu helpu i gyflwyno a dehongli hanes y gwahanol ranbarthau ledled y wlad. Mae ein cyfraniad i Cyfoeth Cymru Gyfan yn helpu i gryfhau ein perthynas â’r amgueddfeydd sy’n bartneriaid inni, gan sicrhau bod yr arbenigedd yn cael ei rannu a bod y casgliadau cenedlaethol ar gael i gymaint o bobl â phosib. Pobl Cymru, wedi’r cwbl, sydd berchen ar y casgliadau cenedlaethol!”











