Bydd Adele Baumgardt yn cael ei phenodi yn Is-gadeirydd a bydd Julia Longville, Janet Kingston, Johanna Lloyd a Peter King yn dod yn aelodau o’r bwrdd.
Bydd y penodiadau yn dechrau ar 1 Medi 2012 a byddant yn para am gyfnod o dair blynedd i ddechrau.
Meddai Huw Lewis,
“Mae’n bleser gen i gyhoeddi’r penodiadau hyn i fwrdd Chwaraeon Cymru. Bydd y pump sy’n cael eu penodi yn cynnig ystod eang o sgiliau a phrofiadau o nifer o gampau gwahanol ac rwy’n siŵr y byddan nhw oll yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r gwaith gwych y mae Chwaraeon Cymru yn ei wneud.
"Mae’n bleser arbennig i benodi pedair merch i’r bwrdd ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn rhoi hwb i’r gwaith da y mae Chwaraeon Cymru eisoes yn ei wneud i annog menywod i gymryd mwy o ran mewn chwaraeon."
Meddai Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru,
“Mae’n bleser gen i groesawu ein haelodau newydd i Fwrdd Chwaraeon Cymru ar yr adeg gyffrous hon i chwaraeon yng Nghymru. Roedd nifer ac ansawdd y ceisiadau ar gyfer y swyddi wedi creu argraff fawr ac yn dangos yr egni sy’n bodoli ynghylch chwaraeon yng Nghymru ar hyn o bryd. Gyda 68 o gystadleuwyr o Gymru yn mynd i’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd rydyn ni’n ymfalchïo’n fawr yn llwyddiannau Cymru fel cenedl sy’n hoffi chwaraeon. Yr her yn awr yw adlewyrchu’r teimlad positif hwn drwy sicrhau mwy o gyfranogiad ymhlith pob cymuned.
"Rydw i’n arbennig o falch y byddwn ni’n croesawu mwy o fenywod i’r Bwrdd. Mae annog mwy o fenywod i gymryd rhan mewn chwaraeon yn faes allweddol i ni, sy’n mynd law yn llaw gyda sicrhau bod trefn lywodraethol chwaraeon yn adlewyrchu’r gymdeithas gyfan yn well. Rydw i’n gwybod y bydd aelodau newydd y Bwrdd yn cynnig safbwynt gwahanol ac yn ein helpu ni i siapio’r ddadl ar sut y gallwn ni sicrhau bod mwy o bobl yn cymryd rhan.”
Ychwanegodd Huw Jones, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru,
“Mae’r penodiadau hyn yn parhau â’n gwaith o feithrin diwylliant deinamig, heriol o fewn Chwaraeon Cymru. Mae’r aelodau newydd yn dwyn ynghyd ystod o brofiad o addysg i fusnes, ynghyd â ffyrdd newydd o weithio a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y sector chwaraeon yng Nghymru. Ar adeg pan mae gennym ni un o’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf yn y byd ar garreg ein drws nid oes gwell amser i ychwanegu’r sgiliau newydd hyn at ein Bwrdd, gan ein helpu ni i sicrhau gwaddol parhaus o gyfranogiad o’r Gemau.”











