Roedd yr ymweliad yn cyd-fynd â digwyddiad ymgysylltu â'r gymuned yn y stadiwm ble bu plant o ysgolion cynradd ac uwchradd De Cymru yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda’r athletwyr. Bu rhai o’r disgyblion hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi a chawsant awgrymiadau a chyngor gan yr athletwyr.
Mae timau Olympaidd a Pharalympaidd o 17 o wledydd, gan gynnwys tua 800 o athletwyr a staff cymorth, yn hyfforddi yng Nghymru cyn Gemau 2012 yn Llundain, yn dilyn pedair blynedd o waith gan Lywodraeth Cymru i ddenu timau i hyfforddi yng Nghymru.
Dywedodd y Gweinidog:
"Mae gweld athletwyr Olympaidd yn hyfforddi ac yn rhyngweithio â’n disgyblion yn hyfryd. Bydd Gemau Olympaidd 2012 yn rhoi cyfle gwych i Gymru fanteisio ar y gwaddol economaidd, diwylliannol ac o ran y chwaraeon. Mae’r gwersylloedd hyfforddi cyn y gemau yn arbennig yn rhoi cyfle gwych i ddatblygu’r ffordd rydyn ni’n cyfnewid chwaraeon, addysg a diwylliant gyda’r gwledydd hyn. I blant a chymunedau lleol maen nhw’n rhoi cyfle i ni ddysgu mwy am wledydd eraill a rhoi gwaddol cadarnhaol o’r Gemau i Gymru."
Mae ymweliad y disgyblion â’r gwersyll hyfforddi yn ategu gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud fel rhan o Gynllun Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion. Mae’r fenter hon yn rhoi llwyfan i ysgolion hyrwyddo’r cyfleoedd dysgu y mae Gemau Olympaidd a Pharalymaidd 2012 yn eu cynnig. Yn ddiweddar cyhoeddodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, bod y fenter yn mynd i gael ei hymestyn tan haf 2014, gyda £2.35 miliwn yn rhagor o gyllid ar gyfer y rhaglen yn 2012-13, a fydd yn allweddol wrth sicrhau bod y gwaith hwn wedi’i ymwreiddio ym mhob ysgol.
Mae’r cyllid yn adeiladu ar fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y fenter o dros £20.7 miliwn er 2001. Nod y rhaglen, a gaiff ei harwain gan Chwaraeon Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, yw gwella safonau a’r amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael i ddisgyblion gymryd rhan mewn Addysg Gorfforol a chwaraeon mewn ysgolion. Mae hefyd yn cefnogi’r broses o gyflenwi targedau allweddol yn y Cynllun Gweithgarwch Corfforol, Creu Cymru Egnïol.
Yn 2012-13 bydd gwaith y fenter Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion yn canolbwyntio ar roi cymorth a chyngor i athrawon mewn ysgolion uwchradd, gyda phwyslais ar sicrhau cysylltiadau effeithiol gyda darpariaeth allgyrsiol mewn ysgolion a rhaglenni yn y gymuned a reolir gan Chwaraeon Cymru.
Meddai Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg:
"Mae’n bwysig yn y flwyddyn Olympaidd eleni a gydol eu haddysg, bod pobl ifanc yng Nghymru yn manteisio ar y manteision enfawr y mae chwaraeon yn eu cynnig. Rydyn ni eisiau annog ein disgyblion i ddefnyddio’r amrywiaeth eang o gyfleusterau gwych ar gyfer addysg gorfforol a chwaraeon yn eu hysgolion. Bydd y cyllid sylweddol drwy’r fenter boblogaidd Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion yn eu galluogi i wneud hynny."
Ychwanegodd Huw Lewis:
"Mae pawb yn gwybod bod chwaraeon yn ddylanwad mawr ar bobl ifanc a bydd cael athletwyr byd-enwog yn hyfforddi ar garreg eu drws ac yn byw yn eu cymunedau yn ysbrydoliaeth fawr. Mae’n addas iawn bod y Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi rhagor o gyllid ar gyfer y fenter hon a fydd yn sicrhau ein bod yn parhau i fanteisio ar yr ysbrydoliaeth hon drwy gynnig cyfleoedd gwych i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn nifer o wahanol gampau sy’n cael eu darparu yn ein hysgolion."











