Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog yn cefnogi Sialens Ddarllen yr Haf 2012

Mae Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth wedi addo rhoi ei gefnogaeth i Sialens Ddarllen yr Haf eleni. Caiff ei chynnal mewn llyfrgelloedd ledled Cymru yn ystod gwyliau’r haf.
Dydd Llun 16 Gorffennaf 2012

Bob blwyddyn, mae miloedd o deuluoedd o bob cwr o Gymru yn rhan o ddigwyddiad darllen mwyaf y DU a gynhelir mewn llyfrgelloedd ar gyfer plant, sef Sialens Ddarllen yr Haf. Y bwriad yw sicrhau bod plant yn darllen chwe llyfr o’u llyfrgell yn ystod gwyliau’r haf.

Mae’r sialens yn rhad ac am ddim. Bydd pob plentyn yn cael cerdyn neu becyn aelodaeth, a bydd modd iddynt gasglu sticeri wrth iddynt ddarllen y llyfrau a bydd pecyn gweithgaredd iddynt ei gwblhau. Hefyd, mae gan y mwyafrif o lyfrgelloedd ffyrdd eraill o ysgogi plant er mwyn gwneud y profiad yn un hwylus iddynt. I ymaelodi, mae angen i deuluoedd ymweld â’r llyfrgell leol ar ddechrau gwyliau’r haf.

Thema’r sialens eleni yw Gemau Llundain 2012, ac fe’i gelwir yn StoryLab. Mae wedi’i deilwra ar gyfer plant rhwng 4 ac 11 oed, ar draws yr ystod oed darllen. Gallant ddarllen unrhyw lyfr: llyfrau ffeithiol, straeon, llyfrau jôcs, llyfrau llun. Gallant hefyd ddarllen llyfrau clywedol ac e-lyfrau cyhyd ag y bônt wedi’u benthyg o’r llyfrgell.

Yn ogystal, cynhelir nifer o ddigwyddiadau arbennig yn y llyfrgelloedd yn ystod y gwyliau fel modd o ddathlu Gemau Llundain 2012. Mae’n gyfle perffaith i rieni sydd heb ymaelodi hyd yma - gall unrhyw un ymaelodi â llyfrgell ac mae’n rhad ac am ddim.

Dywedodd Huw Lewis:

"Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ffordd arbennig i annog plant i ddarllen. Mae’n braf gweld pob un o’r gwasanaethau llyfrgell yn cymryd rhan yn y digwyddiad gan sicrhau bod plant yn gallu bod yn rhan o’r digwyddiad ledled Cymru.

"I blant, mae darllen yn ddiddordeb sy’n talu ar ei ganfed ac mae’n hanfodol i’w datblygiad. Mae e’n datblygu eu sgiliau llythrennedd ond hefyd yn rhoi hwb i’w gwybodaeth ac yn anad dim mae’n tanio eu dychymyg. Os bydd y tywydd gwlyb yn parhau dros gyfnod gwyliau’r haf, a’r plant yn methu mynd allan, bydd hwn yn ffordd arbennig o’u diddanu!"

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Llyfrgelloedd

Gwefannau

Llyfrgelloedd Cymru

Tagiau

Diwylliant a chwaraeon 16 Gorffennaf 2012 Programme for Government - Culture and Heritage Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i