Aeth y Gweinidog ar daith o amgylch safle’r Eisteddfod, gan gynnwys ymweliadau â’r Pafiliwn Rhyngwladol, sydd wedi derbyn £1 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn 2009 i’w adnewyddu, a’r llwyfannau i wylio’r grwpiau gwerin o bob cwr o’r byd yn perfformio yn y caeau o amgylch.
Meddai’r Gweinidog,
“Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn enghraifft wych o gynwysoldeb ac aml-ddiwylliant, gyda chynifer o wahanol genhedloedd yn cymysgu yn eu gwisgoedd traddodiadol a chynifer o ieithoedd yn cael eu siarad o amgylch y cae.
“Mae hefyd yn gyfle gwych inni groesawu’r byd i Gymru ac inni hyrwyddo delwedd mor bositif o Gymru ar y llwyfan rhyngwladol. Mae’n gwneud cyfraniad sylweddol i’r economi leol, ac rwy’n falch iawn o fod yma.”











