Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweithdy yn hoelio sylw ar amgylchedd hanesyddol Cymru

Mewn gweithdy a gynhaliwyd yn Ystagbwll, Sir Benfro, trafodwyd dyfodol amgylchedd hanesyddol Cymru. Cadw a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol oedd yn cynnal y gweithdy ac roedd yn canolbwyntio ar dirweddau, parciau, gerddi a meysydd lle bu brwydro.
Dydd Gwener 15 Mehefin 2012

Dyma'r ail weithdy mewn cyfres o bedwar, a bydd pob un ohonyn nhw'n canolbwyntio ar agwedd wahanol ar yr amgylchedd hanesyddol. Mewn gweithdy yn Aberystwyth ym mis Mai, canolbwyntiwyd ar yr amgylchedd adeiledig, a bydd dau weithdy arall ym mis Mehefin, y naill yn Llandudno ar gyfer y sector archaeoleg a'r llall ym Mro Morgannwg ar gyfer perchenogion adeiladau a gerddi hanesyddol.

Mae'r gweithdai hyn, sy'n trafod agweddau penodol ar y sector, yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer y sector cyfan, a fynychwyd gan dros 80 o bobl yn gynharach eleni.

Bydd y gweithdai'n helpu i lunio polisi amgylchedd hanesyddol Cymru yn y dyfodol a bydd yn cyfrannu at lunio'r Bil Treftadaeth, y bwriedir ei gyflwyno yn 2014-15, ynghyd ag unrhyw bolisïau, canllawiau a gweithgareddau perthnasol. Bydd y rhai a fydd yn bresennol yn y gweithdy yn ystyried y cyd-destun ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol a'r modd y gallai hyn ddylanwadu ar lunio polisïau yn y dyfodol, wrth i'r datblygiadau ar gyfer y Bil Treftadaeth barhau.  

Yn ôl Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth:

"Wrth i ni baratoi ar gyfer y Bil Treftadaeth, mae'r trafodaethau hyn am amgylchedd hanesyddol Cymru a'r hyn sydd angen ei wneud i'w ddatblygu ac i'w ddiogelu at y dyfodol, yn hollbwysig."

"Mae'r gyfres hon o weithdai wedi'i hanelu at agweddau penodol iawn o'r amgylchedd hanesyddol er mwyn sicrhau ein bod ni'n cael cymaint o sylwadau â phosibl am bob agwedd ohono. Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi gweithio'n agos iawn gyda ni ar y gweithdai hyn ac rwy'n falch iawn o hynny gan eu bod nhw'n berchen ar ddarnau sylweddol o dir o bwys hanesyddol yng Nghymru, gan gynnwys 15 o Barciau a Gerddi Cofrestredig. Felly, bydd eu cyfraniad nhw yn werthfawr ac yn ddiddorol iawn."

"Rwy'n edrych ymlaen at weld ffrwyth y trafodaethau ac ystyried sut y gallan nhw helpu datblygiad y Bil Treftadaeth."

Cynhelir digwyddiad i Gymru gyfan, sef y Gynhadledd Treftadaeth, ar 19 Gorffennaf, er mwyn adeiladu ar y materion a gododd yn y gweithdai, a chyfrannu fwy fyth at gynnwys y Bil Treftadaeth.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Yr amgylchedd hanesyddol Cadw

Tagiau

Diwylliant a chwaraeon 15 Mehefin 2012 Programme for Government - Culture and Heritage Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i