Ers darganfod y llong yn 2002, mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu dros £3.5 miliwn i’r prosiect. Yn fwyaf diweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £21,000 tuag at ailadeiladu Llong Ganoloesol Casnewydd yn ddigidol, i gynnwys dyluniadau 3D a darluniau deinamig fydd yn helpu i ail-greu ffurf wreiddiol corff y llong, penderfynu ar ei nodweddion, hysbysu cyhoeddiadau a bod yn sail ar gyfer arddangosfeydd dehongliadol y dyfodol.
Mae’r llong - sydd wedi’i hadeiladu trwy ddefnyddio’r dull ‘clincer’ - yr enghraifft fwyaf cyflawn o long fasnachol o’r bymthegfed ganrif i’w chanfod ym Mhrydain erioed, yn cael ei thrin â chemegion ar hyn o bryd i sefydlogi a chryfhau’r 1700 darn o goed a gafodd eu hadfer. Bydd y broses hon yn cymryd hyd at ddwy flynedd. Unwaith y bydd y gwaith cadw wedi’i gwblhau, bydd y llong yn cael ei hailadeiladu a’i gosod mewn arddangosfa gyhoeddus. Mae’r cynlluniau i arddangos y llong yn destun trafodaeth ar hyn o bryd, a byddwn yn dathlu 10 mlynedd ers darganfod y llong gyda rhaglen o ddigwyddiadau dros y flwyddyn gyfan.
Meddai’r Gweinidog:
“Mae Llong Casnewydd wedi dal sylw’r cyhoedd yng Nghymru ers ei darganfod yn 2002. Mae’r gwaith cadwraeth a welais i heddiw wedi creu argraff arnaf, a’r ffordd y gellir defnyddio cemegion modern a dulliau arloesol i gadw crair mor hynafol.
“Prif nod y gwaith hwn wrth gwrs yw gwneud yn siŵr y gellir arddangos y llong yn gyhoeddus, ac rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi chwarae rhan bwysig yn y broses o gadw’r llong, yn ogystal â buddsoddi mewn ffyrdd o adrodd hanes y llong.
Dwi’n dymuno pob llwyddiant gyda chamau nesaf y prosiect, ac yn edrych ymlaen at ddychwelyd yn y dyfodol i weld y llong wedi’i chwblhau.”











