Mae’r ymateb yn amlinellu yr angen i Ofcom a Llywodraeth y DU i ddarparu cymhelliad ariannol er mwyn sicrhau parhad darpariaeth newyddion a materion cyfoes Cymru ar ITV1.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi argymhellion a wnaed gan y Grwp Cynghori ar Ddarlledu, sef y dylai unrhyw gefnogaeth ariannol gael ei gyferio drwy sefydliad comisynu yng Nghymru a chael ei ariannu gan Lywodraeth y DU.
Fe gytunodd y Gweinidog Treftadaeth gyda farn y Grwp Cynghori y dylai gwylwyr Cymru hefyd barhau i fwynhau ystod eang o deledu trwy gyfrwng y Saesneg y tu allan i faes newyddion yng Nghymru, gan gynnwys drama a chomedi.
Mae Gweinidogion wedi cefnogi’r argymhelliad y bod angen mecanwaith i sicrhau bod yr ystod yma o raglenni yn cael ei gynnal. Maent hefyd yn cytuno gyda’r farn bod angen rhoi ystyriaeth i greu sianel arwahan ac yn annog Ofcom i sicrhau argaeledd gofod digidol.
Fe ffurfiodd Llywodraeth y Cynulliad y grwp arbenigol yn Hydref 2008 i gynghori ar ddatblygiad gwasanaethau teledu trwy gyfrwng y Saesneg yng Nghymru. Aeoldau’r grwp yw Huw Jones (Cadeirydd), Julie Barton, Geraint Talfan Davies, a’r athro Kevin Morgan.
Prif argymhellion y grwp yw:
- Mae ITV yn parhau i gynnig y cyfle gorau i gyrraedd y gynulleidfa fwyaf, ac eithrio’r BBC, o safbwynt rhaglenni newyddion ac fel arall, a dylid chwilio am ddulliau i hwyluso’r gwaith o gadw slotiau ‘eithrio’ Cymru, a ddylai dderbyn arian cyhoeddus gyda’r cynnwys yn cael ei ddarparu gan drydydd parti.
- Dylid sefydlu Comisiwn Cyfryngau i Gymru cyn gynted at y bo modd. Dylid cadarnhau ei ffurf, ei gylch gwaith a’i gyllid mewn deddfwriaeth, er mwyn iddo allu gweithredu a chomisiynu yn annibynnol ar y llywodraeth. Dylai weithredu trwy wahodd tendrau cystadleuol ar gyfer nifer fach o gontractau tymor canolig sylweddol sy’n para, dyweder, rhwng 3-4 blynedd.
- Fe ddylai lle gael ei sicrhau ar gyfer canitau yr opsiwn o sefydlu sianel newydd trwy gyfrwng y Saesneg.
- Byddai’r Comisiwn yn ymdrin yn benodol â’r angen i gadw hyblygrwydd, heb orfod troi’n rheolaidd at ddeddfwriaeth, er mwyn gallu ymateb i dechnoleg newidiol, amgylchiadau’r farchnad a phatrymau defnyddio’r cyfryngau gan y defnyddwyr. Byddai gwaith y Comisiwn yn ymestyn dros yr holl gyfryngau, gan gynnwys y radio.
- Dylai ymrwymiad y BBC i ddarparu 17% o’r rhaglenni rhwydwaith erbyn 2016 gael ei symud ymlaen i 2012.
- Nid oes unrhyw reswm pam na ddylai C4, darlledwr gwasanaeth cyhoeddus dielw, gael yr un targed â’r BBC, er y bydd ei sylfaen isel bresennol yn golygu y bydd targed ar gyfer 2016 yn rhesymol. Mae awgrym Ofcom y dylai targed C4 i gynhyrchu o’r tair gwlad fod yn 3% o’r gwariant rhwydwaith yn annerbyniol.
Mae’r Grwp Cynghori a Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi pwysleisio bod datblygiad gwasanaethau teledu trwy gyfrwng y Saesneg yn cael ei gweld ochr yn ochr ac yn ychwanegol i barhad darpariaeth gyhoeddus i gefnogi S4C.
Mae argymhellion y grwp wedi’u derbyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac wedi cyfrannu at yr ymateb i Ofcom.
Dywedodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones:
Hoffwn ddiolch i’r grwp am eu gwaith ac yr wyf yn cymeradwyo ac yn croesawu yn gynnes adroddiad y grwp. Rydym yn credu bod y canlyniadau yn cynnig rhesymau cryf ar gyfer cadw ac atgyfnerthu darlledu cyhoeddus cyfrwng Sasesneg yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn wedi cyfrannu at lunio ymateb Llywodraeth y Cynulliad i Rhan 2 o adolygiad Ofcom o Wasanaeth Darlledu Cyhoeddus ac mae hefyd yn sail cadarn ar gyfer creu polisi yn y maes yma yn y dyfodol.
3 Rhagfyr 2008











