Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Penodiadau i fwrdd ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog dros Dreftadaeth, wedi cyhoeddi bod Dr Lyn Davies a'r Parchedig Enid Morgan wedi'u penodi i Fwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dydd Iau 01 Tachwedd 2007

Daeth y penodiadau i rym ar 1 Hydref 2007 a byddant yn para am 4 blynedd. Byddant yn mynychu eu cyfarfod cyntaf o'r bwrdd ar 1 Tachwedd.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog dros Dreftadaeth:

Mae'n bleser gennyf benodi Lyn Davies ac Enid Morgan i Fwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd bwrdd yr ymddiriedolwyr yn elwa ar eu profiad, ac rwy'n siŵr eu bod yn edrych ymlaen at ddechrau ar eu gwaith.

Dywedodd y Parchedig Enid Morgan:

Mae'n fraint cael derbyn y penodiad hwn. Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn sefydliad cenedlaethol craidd, yn storfa o drysorau ac yn weithle creadigol ar gyfer y byd sydd ohoni heddiw.

Dywedodd Dr Lyn Davies:

Mae'n fraint cael fy mhenodi i fwrdd yr ymddiriedolwyr, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i weithio gyda'r Llyfrgell Genedlaethol.

Dywedodd Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

Rwy'n croesawu'r Parchedig Morgan a Dr Davies i fwrdd ymddiriedolwyr y Llyfrgell Genedlaethol. Mae gan yr ymddiriedolwyr rôl bwysig i'w chwarae o ran helpu i bennu cyfeiriad y llyfrgell yn y dyfodol wrth i ni ddechrau ein hail ganrif o fodolaeth, ac rwy'n sicr y byddant yn chwarae rhan lawn yn y gwaith hwnnw.

Bywgraffiadau

Dr Lyn Davies: Pennaeth Astudiaethau Lleisiol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers 1999, gyda chyfrifoldeb am reoli adran o tua 90 o fyfyrwyr a hyd at 30 o staff. Mae'n goruchwylio'r broses o ddatblygu a dylunio cyrsiau ac ansawdd yr addysgu, ac mae'n mynd ati i feithrin cysylltiadau ag Ysgolion Cerdd eraill yn y byd. Datblygodd Dr Davies gwrs ôl-raddedig newydd yn y Coleg, mewn cydweithrediad agos ag Opera Cenedlaethol Cymru. Cyn hynny, roedd yn Uwch Swyddog Datblygu Ffurfiau Celf yng Nghyngor Celfyddydau Cymru o 1997 i 1999; roedd yn Ddarlithydd Preswyl dros Sir Gaerfyrddin yn yr Adran Efrydiau Allanol ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth o 1984 i 1997; a bu’n darlithio ym maes Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth o 1981 i 1984. Nid yw wedi'i benodi gan Weinidog i unrhyw swydd arall.  

Y Parchedig Ganon Enid Morgan: Mae’n Ganon Anrhydeddus yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ers 2003. Cyn hynny, bu’n Ficer Plwyf Llangynwyd a Maesteg o 2000 i 2005; bu’n Gyfarwyddwr Bwrdd Cenhadu'r Eglwys yng Nghymru o 1993 i 2000, gyda chyfrifoldeb am Wasg yr Eglwys yng Nghymru; a hi oedd yr Offeiriad a fu’n gyfrifol am Blwyf Llanafan/Llanfihangel y Creuddyn o 1984 i 1993. Roedd y Parchedig Morgan yn aelod o CYTÛN: cyngor Eglwysi Ynghyd yng Nghymru o 1993 i 2000 ac yn Is-lywydd am dair blynedd. Mae wedi gweithio fel golygydd cynorthwyol ac fel golygydd ar nifer o bapurau a chylchgronau. Nid yw wedi'i phenodi gan Weinidog i unrhyw swydd arall.

1 Tachwedd 2007

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Llyfrgell Genedlaethol Cymru Diwylliant a chwaraeon

Tagiau

Diwylliant a chwaraeon 01 Tachwedd 2007
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i