Mae CAFCASS Cymru yn cynnig cyngor gwaith cymdeithasol arbenigol ac annibynnol i’r llysoedd achosion teuluol, y Llysoedd Sirol a’r Uchel Lys. Mae’r cynllun yn amlinellu nodau strategol CAFCASS Cymru ar gyfer y cyfnod 2012-2015 ac yn diffinio’r gwerthoedd sy’n greiddiol i’w waith. Mae’r cynllun hefyd yn pennu nifer o heriau a fydd yn llywio’r sefydliad dros y blynyddoedd nesaf.
Wrth annerch digwyddiad yn y Senedd i lansio’r cynllun dywedodd Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Mae CAFCASS Cymru wedi datblygu gweledigaeth glir ar gyfer y dyfodol, a amlinellir yn y cynllun strategol uchelgeisiol hwn. Rwy’n gwerthfawrogi yn arbennig y ffordd y mae lleisiau plant a’u teuluoedd wedi’u casglu a’u plethu o fewn y cynllun, gan eu bod hwy yn ganolog i bopeth y mae CAFCASS Cymru yn ceisio ei gyflawni.”
Am y tro cyntaf, mae fersiwn o’r cynllun wedi’i gynhyrchu ar gyfer plant er mwyn egluro i ddefnyddwyr pwysicaf gwasanaethau CAFCASS Cymru yr hyn y gallant ei ddisgwyl gan y sefydliad.
Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog:
“Mae’r pedwar amcan strategol hynod heriol wedi’u crynhoi mor dda yn y fersiwn i blant. Rwy’n arbennig o ddiolchgar i’r grwpiau plant a helpodd i’w datblygu. Dyma’r tro cyntaf i CAFCASS Cymru elwa ar gydweithio mor agos â phlant wrth ddatblygu prosiect, ac rwy’n gwybod bod hwn yn faes lle mae’r sefydliad yn datblygu trefniadau cyfranogi llawer cryfach ar gyfer y dyfodol.”
Cafwyd anerchiadau yn y digwyddiad hefyd gan Gomisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, a Phrif Weithredwr GIG Cymru, David Sissling. Roedd partneriaid allweddol o bob rhan o Gymru yn bresennol yn y digwyddiad.











