Mae'r ddyletswydd sy'n dod i rym heddiw yn golygu y bydd rhaid i'r Gweinidogion ystyried hawliau plant a phobl ifanc ym mhob penderfyniad y byddant yn ei wneud am ddeddfwriaeth a pholisïau, yn ogystal ag wrth newid polisïau sy'n bodoli'n barod.
Ategir hyn gan Fesur Hawliau Plant Llywodraeth Cymru, sy'n nodi sut y bydd y drefn hon yn gweithio'n ymarferol. Mae'r Mesur hefyd yn cynnig ffordd hawdd a hwylus i blant a phobl ifanc herio'r Llywodraeth os ydynt yn teimlo nad yw eu hawliau wedi cael eu hystyried.
Bydd gwaith monitro, gwerthuso ac adrodd yn cael ei gynnal er mwyn sicrhau bod y sylw hwn i hawliau plant yn cael effaith.
I gyd-fynd â hyn, bu Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant, ar ymweliad ag Amgueddfa Lofaol Big Pit yn Nhorfaen, lle bu'n trafod gyda phlant o ysgolion lleol sut mae eu bywydau a'u hawliau nhw yn cymharu â'r sefyllfa fel yr oedd hi i genedlaethau'r gorffennol.
Meddai'r Dirprwy Weinidog:
"Rwy'n falch iawn o gael bod yn rhan o'r achlysur hanesyddol hwn, yn fy rôl fel y gweinidog sy'n gyfrifol am y portffolio plant. Mae Cymru'n torri tir newydd o ran hawliau plant, a bydd gwledydd eraill yn edrych ar ein profiadau ni wrth iddyn nhw fynd ati i roi'r confensiwn ar waith.
"Rydyn ni wedi dod yn bell iawn ers 2004, pan fabwysiadwyd y Confensiwn Hawliau Plant ar gyfer ein gwaith gyda phlant a phobl ifanc. O hyn ymlaen, bydd y confensiwn hwn yn sail i holl waith Llywodraeth Cymru wrth inni fynd ati i wella polisïau a deddfwriaeth er mwyn helpu i wella bywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd.
"Rydyn ni wedi buddsoddi mewn gwasanaethau gwybodaeth, cynghori ac eiriolaeth er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn, yn cael cymryd rhan ym mywyd y gymdeithas ac yn cael cymorth lle bo'i angen.
"Bydd plant yng Nghymru yn gweld bod eu llywodraeth yn rhoi sylw i'w hanghenion, a hefyd i'w hawl i fod yn ddiogel, i gael eu clywed ac i gael cyfleoedd a phrofiadau cadarnhaol a fydd yn fuddiol iddyn nhw weddill eu bywydau."











