Mae gwasanaethau cyswllt â phlant yn darparu amgylchedd lle mae’r plentyn yn ganolog er mwyn helpu plant i fwynhau treulio amser gyda rhiant neu aelod teulu nad yw’n byw gyda nhw. Mae’r gwasanaethau’n ymateb i anghenion amrywiol plant pan fydd teuluoedd yn chwalu. I rai o ddefnyddwyr y gwasanaethau, y trefniadau cyswllt hyn fydd yr unig gyfle i dreulio amser gyda’u plant.
Mae CAFCASS Cymru yn ariannu nifer o wasanaethau ledled y wlad, ond nid yw’r ddarpariaeth yn gyson ar draws Cymru. Serch hynny, bydd y sefyllfa honno’n newid yn sgil penderfyniad gan Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Bydd CAFCASS Cymru yn parhau i ariannu gwasanaethau cyswllt plant ledled Cymru yn 2012-13, ond yn ystod y flwyddyn nesaf bydd yn gwneud trefniadau i roi system newydd ar waith. O dan y system hon, un darparwr fydd yn rheoli’r rhwydwaith o wasanaethau ar draws Cymru.
Dywedodd Gwenda Thomas:
“Mae CAFCASS Cymru wedi bod yn edrych ar y ddarpariaeth o wasanaethau cyswllt â phlant. Er bod y ddarpariaeth yn dda mewn rhai mannau yng Nghymru, mewn mannau eraill mae lefel y ddarpariaeth yn isel iawn neu ddim yn bodoli o gwbl.
“Mae angen mynd i’r afael â’r sefyllfa, a dw i wedi penderfynu y bydd CAFCASS Cymru, trwy ailddyrannu adnoddau, yn gweithredu i wella’r ddarpariaeth mewn ardaloedd lle mae’n ddiffygiol. Trwy gydol y broses hon, bydd cyfanswm yr arian a roddir yn parhau ar y lefelau presennol.”
“Ym mis Ebrill 2013, o dan y system newydd, bydd y ddarpariaeth ar draws y wlad yn gwella ymhellach.”
Dywedodd Gillian Baranski, Prif Weithredwr CAFCASS:
“Bydd y newidiadau’n sicrhau bod y ddarpariaeth yn fwy cyson ar draws Cymru, ac ar yr un pryd bydd y lefelau ariannu presennol yn parhau.”











