Mae’r adroddiad yn rhoi cipolwg i ni o natur Teuluoedd Dechrau’n Deg a’r heriau y maent yn eu hwynebu. Mae’n cynnig cyfoeth o wybodaeth am y defnydd a’r profiad o Dechrau’n Deg o safbwynt teuluoedd.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog:
“Beth sy’n fy nharo i am yr adroddiad hwn yw bod y rhieni yn yr ardaloedd lle mae’r rhaglen ar waith yn gadarnhaol iawn am effaith y rhaglen Dechrau’n Deg. Mae hynny’n cyd-fynd â’r hyn rwyf finnau wedi ei glywed gan rieni a staff rheng flaen sy’n ymwneud â darparu’r rhaglen, yn ogystal â’r sylfaen dystiolaeth ehangach ar gyfer y rhaglen.”
“Rhaid i ni gofio bod yr ardaloedd lle mae Dechrau’n Deg yn gweithredu ymysg y mwyaf difreintiedig yng Nghymru a bod y teuluoedd yn yr ardaloedd hynny yn rhai o’r anoddaf i’w cyrraedd. Rhaid ystyried yr adroddiad o fewn y cyd-destun hwnnw. Dylem gofio hefyd ei bod yn ddyddiau cynnar i’r rhaglen o hyd, ac rwy’n disgwyl gweld gwelliannau pellach dros y tymor hir.”
“Mae’n bwysig ein bod yn parhau i werthuso effaith y rhaglen, a bydd yr adroddiad hwn yn cynnig tystiolaeth y gallwn ei defnyddio i’w datblygu a’i hehangu.”
“Byddaf yn gwneud datganiad i’r Cynulliad Cenedlaethol am yr adroddiad hwn cyn gynted â phosibl yn y Flwyddyn Newydd.”











