Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Dirprwy Weinidog yn cyhoeddi cymorth grant i helpu plant a theuluoedd

Bydd mudiadau gwirfoddol sy'n darparu gwasanaethau ar gyfer plant a theuluoedd ledled Cymru yn gallu gwneud cais am arian o dan gynllun grant diwygiedig, yn dilyn cyhoeddiad gan Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dydd Iau 01 Medi 2011

Bydd y cynllun Grant Mudiadau Plant a Theuluoedd cyfun yn darparu hyd at £4 miliwn o arian i fudiadau yn y sector gwirfoddol sy’n gweithio ar draws Cymru. Mae'r arian yn cael ei ddarparu o dan gylch grant dwy flynedd newydd o 2012 i 2014, sydd ar agor i geisiadau.

Dywedodd Gwenda Thomas:

“Mae angen i'r trydydd sector ymateb i'r her sy'n ein hwynebu ar adeg pan mae cyllidebau pawb ohonom yn cael eu cwtogi. Trwy wneud newidiadau i ofynion ariannu’r Grant Mudiadau Plant a Theuluoedd, y nod yw sicrhau bod mudiadau gwirfoddol yn helpu i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a gwella bywydau pob plentyn yng Nghymru.

“Rydyn ni’n awyddus i annog ffyrdd arloesol a chydweithredol o weithio sy'n sicrhau bod y defnydd gorau yn cael ei wneud o adnoddau. Rydyn ni o’r farn y bydd y newidiadau rydyn ni wedi eu gwneud i'r cynllun hwn yn helpu mudiadau yn y sector gwirfoddol i wneud hynny.”

Gall mudiadau a hoffai ystyried gwneud cais am arian gael rhagor o wybodaeth yn trwy ddilyn y dolen cyswyllt i'r dde o'r erthygl hon.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Canllawiau

Tagiau

Plant a phobl ifanc 01 Medi 2011 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i