Mae rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn ymateb allweddol o ran cyflawni Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru, a bydd y rhaglen hon yn cael ei rhoi ar waith ar draws Cymru o Ebrill 2012. Bydd yn helpu i ddatblygu systemau a chymorth amlasiantaeth effeithiol ar gyfer teuluoedd, yn enwedig y rheini sy’n byw mewn tlodi.
Mae angen gwahanol lefelau o gymorth ar deuluoedd gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau. Bydd angen cymorth dwys arnynt i geisio datrys problemau cymhleth. Fodd bynnag, gallai fod angen help ar rai teuluoedd i ddatrys problemau llai difrifol er mwyn atal y problemau hynny rhag troi’n gymhleth.
Yn aml, bydd llawer o wahanol dimau a gwasanaethau yn rhan o’r ymdrechion i roi cymorth i deulu. Mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod y gwasanaethau hynny’n gweithio gyda’i gilydd i ddarparu cymorth effeithiol.
Nod Teuluoedd yn Gyntaf yw gweithio ochr yn ochr â rhaglenni eraill, gan gynnwys Dechrau’n Deg, Cymunedau yn Gyntaf a’r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd, i ddatblygu gwasanaeth cymorth di-dor i deuluoedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu pum ardal arloesi Teuluoedd yn Gyntaf, lle mae’r rhaglen ar waith ar hyn o bryd.
Mae’r Dirprwy Weinidog, Gwenda Thomas, wedi ysgrifennu at arweinwyr pob un o’r 22 o gynghorau, gan ofyn iddynt weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni’r amcanion ar gyfer plant a theuluoedd dros y pum mlynedd nesaf.
Yn ei llythyr dywedodd:
“Roedd ein maniffesto’n atgyfnerthu’n hymrwymiad i gael gwared ar dlodi plant a’n hamcanion i helpu teuluoedd i ddod o hyd i waith, i wella’u sgiliau a lleihau’r bylchau yn y canlyniadau i blant sy’n byw mewn tlodi, sy’n parhau i fod yn ganolog i bob peth a wnawn.”
Bydd Canllawiau Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn helpu i baratoi awdurdodau lleol ar gyfer cyflwyno’r rhaglen yn 2012. Byddant yn gweithio gyda byrddau iechyd lleol a phartneriaid eraill i ddatblygu cynlluniau sydd wedi’u teilwra i anghenion lleol, gan gyfrannu at ganlyniadau’r rhaglen genedlaethol.
Dywedodd Gwenda Thomas hefyd:
“Yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, gosodwyd y sylfeini ar gyfer dull integredig o gyflawni ar gyfer teuluoedd a’u plant. Rwy’n gweld fy rôl newydd fel cyfle i gydgysylltu ein holl wasanaethau i blant, y rhai cyffredinol ac arbenigol.”











