Nod y Monitor yw adrodd ar les plant a phobl ifanc (0-25 oed) gan ddefnyddio amryw o ddangosyddion lles, canfyddiadau o’r sail dystiolaeth ehangach a sylwadau’r plant a’r bobl ifanc eu hunain.
Mae’r Monitor yn seiliedig ar themâu a gymerwyd o saith nod craidd Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae’n cynnwys ystadegau ar amryw o faterion fel:
- pa mor iach yw ein plant a’n pobl ifanc,
- ydyn nhw’n cael digon o gefnogaeth pan fyddan nhw’n ifanc iawn,
- pa mor dda maen nhw’n cyflawni yn yr ysgol a’r coleg,
- ydyn nhw’n cael digon o gyfleoedd gyrfa,
- ydyn nhw’n ddiogel gartref neu yn y stryd,
- a oes digon ohonyn nhw’n gallu cymryd rhan mewn chwaraeon, a
- faint sy’n byw mewn tlodi.
Meddai Huw Lewis:
“Lles a hapusrwydd plant a phobl ifanc yng Nghymru yw un o’n prif flaenoriaethau, felly rydym ni angen gwybodaeth gywir i wneud penderfyniadau da ar sut i sicrhau hynny.
“Mae’r Monitor Lles Plant a Phobl Ifanc yn ein helpu i ddeall y darlun ehangach mewn perthynas â lles plant a phobl ifanc yng Nghymru. Trwy ddeall y materion mae plant yn eu hwynebu gallwn gymryd camau a fydd yn gwella bywydau ein plant a’n pobl ifanc.
“Gall cael ffeithiau cyfredol, dibynadwy helpu cynghorau, elusennau a sefydliadau lleol eraill i gynllunio gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae’n helpu pawb i weld problemau a chadw golwg ar sut rydym ni’n llwyddo i wella bywydau plant a phobl ifanc.
“Yn y Monitor hwn, am y tro cyntaf, fe wnaethom ofyn yn uniongyrchol i blant a phobl ifanc sut maen nhw’n teimlo am eu bywydau a’r byd o’u cwmpas. Bydd hyn yn rhoi darlun llawer cliriach i ni o’r hyn mae plant a phobl ifanc am ei gael ac yn disgwyl ei gael gan y gwasanaethau a ddarperir iddyn nhw.
“Mae’r Monitor yn dangos nifer o feysydd lle cafwyd cynnydd fel lleihau nifer y marwolaethau ymysg babanod, lleihau nifer y plant sy’n cael eu lladd mewn damweiniau ar y ffyrdd a lleihau nifer y bobl ifanc yn eu harddegau sy’n dechrau ysmygu.
“Fodd bynnag, mae yna welliannau i’w gwneud o hyd ac mae’r Monitor yn dangos nad yw’r ffigurau cystal o ran lles plant sy’n byw mewn amddifadedd a thlodi. Mae hynny’n atgyfnerthu pwysigrwydd ein hymrwymiad i ddileu tlodi plant erbyn 2020 trwy gyflawni’r camau gweithredu a nodwyd yn ein strategaeth tlodi plant”











