Mewn araith allweddol i nodi Diwrnod Dileu Tlodi y Cenhedloedd Unedig, cadarnhaodd y Gweinidog ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i fynd i’r afael â thlodi plant a rhoi lle canolog i hynny ar ei agenda.
Cydnabu’r Gweinidog bod yr her o ddileu tlodi ymhlith plant yng Nghymru yn sylweddol a phwysleisiodd bod angen am waith partneriaeth cryf.
“Mae gormod o deuluoedd yn dioddef o effeithiau tlodi, “ meddai, “ac mae llawer o’n dinasyddion yn methu â chwarae rhan lawn mewn cymdeithas oherwydd yr ystod o anfanteision a wynebir ganddynt. Mae hyn yn dramgwydd i’n hymdeimlad o gyfiawnder cymdeithasol ac yn wastraff o sgiliau a thalentau ein pobl.
“Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymrwymedig i wneud ei rhan i wella bywydau’r rhai hynny sy’n wynebu’r anfanteision mwyaf drwy greu polisïau i godi lefelau cyrhaeddiad addysgol, gwella iechyd a gwella’r rhagolygon o ran cael gwaith.
“Dengys tystiolaeth ein bod wedi cyflawni llawer eisoes. Mae’r cyfraddau tlodi ymhlith plant yng Nghymru wedi dod i lawr o dan gyfartaledd Prydain am y tro cyntaf. Ond nid ydym am orffwys ar ein rhwyfau – dengys yr ystadegau bod 28% o blant Cymru yn dal yn byw mewn cartrefi y mae eu hincwm yn is na 60 y cant o’r cyfartaledd.”
Amlinellodd y Gweinidog y polisïau a’r rhaglenni sydd eisoes ar waith i ddelio â thlodi ymhlith plant, ac amlygodd sut y mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu ymdrechu mwy fyth yn hyn o beth.
“Mae rhaglenni fel Dechrau’n Deg, Cymorth, Rhagori, Cymunedau yn Gyntaf, brecwastau am ddim yn yr ysgol, ein grant gwisg ysgol a’n Strategaeth Gofal Plant genedlaethol oll yn cyfrannu at leihau tlodi ac anfantais. Hefyd, mae nifer o ymrwymiadau newydd yn Cymru’n Un y byddwn yn mynd i’r afael â nhw dros gyfnod y Cynulliad hwn.
“Bwriadwn ddefnyddio ein pwerau newydd i ddiwygio’r gyfraith o ran plant agored i niwed yng Nghymru ac i gael y grym i’w gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ddangos sut y maent wedi cyfrannu at ddileu tlodi ymhlith plant.
“Rydym hefyd yn bwriadu cyflwyno ychwanegiad i’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant i bob plentyn sy’n dechrau addysg lawn amser yng Nghymru ac, yn bwysicach fyth, byddwn yn rhoi mwy i blant mewn teuluoedd sydd ag incwm isel. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i gynyddu ein hymdrechion i helpu’r teuluoedd tlotaf. Byddwn hefyd yn gwneud hyn drwy ddefnyddio i’r eithaf yr incwm y maent yn ei gael drwy ehangu’r gwasanaethau budd-daliadau a chyngor ar ddyledion, gwella addysg ariannol a sicrhau bod pob disgybl ysgol uwchradd yn medru cael mynediad at undeb credyd.”
Hefyd, tynnodd y Gweinidog sylw at y rôl allweddol y bydd y panel o arbenigwyr y mae’n ei sefydlu yn ei chwarae o ran monitro cynnydd a chynghori Llywodraeth y Cynulliad ar y camau pellach sy’n angenrheidiol i gyrraedd y nod o ddileu tlodi ymhlith plant erbyn 2020.
I gloi, dywedodd y Dr Gibbons bod ”Mynd i’r afael â thlodi ymhlith plant a sicrhau cyfiawnder cymdeithasol i bobl Cymru wrth wraidd agenda’r drydedd Llywodraeth Cynulliad hon. Er bod camau mawr wedi’u gwneud yn ddiweddar, rwyf yn sicr na ddylem laesu dwylo a bod angen i ni ymdrechu hyd yn oed fwy fyth. Yr wyf yn hyderus y bydd gweithredu ein rhaglen lywodraethu Cymru’n Un yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion o fynd i’r afael â thlodi ac anfantais ymhlith rhai o’n dinasyddion mwyaf agored i niwed.”
17 Hydref 2007
- Hafan
- Amdanom ni
Yn yr adran hon
Prif storïau'r adran
Gwasanaeth Iechyd y Bobl
Roedd hyn yn rhan o fenter i ymgysylltu â'r cyhoedd yn fwy uniongyrchol o ran creu gwasanaeth iechyd diogel a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Lledaenu’r gair »
Gweithredu ar lawr gwlad i gael rhagor o ddeunyddiau dysgu cyfrwng Cymraeg.
Rhagor o wybodaeth » - Newyddion
Y newyddion diweddaraf
-
Cyhoeddi Seren Wyddoniaeth gyntaf Cymru
Bydd niwrofiolegydd o fri rhyngwladol yn dechrau ar ei swydd ym Mhrifysgol Caerdydd fel y penodiad cyntaf o dan fenter wyddonol fawr Llywodraeth Cymru.
- Gweinidog yn lansio Bwndel Ymataliaeth Cymru Gyfan
- Pobl yn gofyn am gymorth mewn argyfwng oherwydd y newidiadau i’r system les
- “Datganoli treth stamp yn hanfodol i’r diwydiant adeiladu yng Nghymru” – Carwyn Jones
-
- Pynciau
O ddiddordeb »
Y Gymraeg
Cynllun gweithredu technoleg a’r cyfryngau digidol cymraeg
Mae’r cynllun gweithredu hwn yn amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i chwarae rôl blaengar wrth sbarduno datblygiadau ym maes Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg.Rhagor o wybodaeth » - Cyhoeddiadau
Yn yr adran hon
Prif storïau'r adran
Rhyddid gwybodaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn dilyn egwyddorion llywodraeth agored ers blynyddoedd bellach. Gwelwch sut mae gwneud cais rhyddid gwybodaeth, a pa geisiadau sydd wedi eu ateb.
Y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru 2013-2023 »
Mae trydydd cam y Strategaeth yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan bobl hŷn yng Nghymru yr adnoddau y mae arnynt eu hangen i ymdopi â'r heriau a'r cyfleoedd y maent yn eu hwynebu.Rhagor o wybodaeth » - Ymgynghori
Ychwanegwyd yn ddiweddar
- Ymgynghoriad ar Nodyn Cyngor Technegol Drafft (TAN) 23 Datblygu Economaidd
- Diwygiadau i Reoliadau Cerbydau Modur (Cystadlaethau a Threialon) 1969 a Rheoliadau Cerbydau Modur (Digwyddiadau Oddi-ar-y-Ffordd) 1995
- Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 Rhan 7: Cymunedau a Chynghorau Cymuned
Yn dod i ben yn fuan
- Cynllun drafft y sector diwydiannol a masnachol
- Y Rhaglen Atal Gwastraff
- System Rheoli Adeiladu a’r Ddogfen Gymeradwy sy’n cefnogi rheoliad 7
Y prif ymgynghoriad »
Gwella mynediad i driniaeth camddefnyddio sylweddau i gyn-filwyr
66 diwrnod ar ôl
- Deddfwriaeth
Yn yr adran hon
Prif storïau'r adran
Mynegai o Ganllawiau ar Bolisi Cynllunio ar gyfer Cymru
Mae ein canllawiau polisi cynllunio ar gyfer defnyddio tir wedi’u rhannu’n ddwy brif ddogfen, sef “Polisi Cynllunio Cymru” a “Polisi Cynllunio Mwynau Cymru”.Rhaglen Ddeddfwriaethol 2012 - 2013 »
Wrth annerch y Cynulliad yn y Senedd heddiw amlinellodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones yr wyth bil yn Rhaglen Ddeddfwriaethol 5 mlynedd Llywodraeth Cymru a gyflwynir yn ystod ail flwyddyn y Cynulliad Cenedlaethol.
Rhagor o wybodaeth » - Ariannu
Prif storïau'r adran
Ardoll Seilwaith Cymunedol
Caiff awdurdodau lleol godi Ardoll Seilwaith Cymunedol ar ddatblygiadau newydd er mwyn cefnogi’r seilwaith sydd ei angen.
Astudiaethau Achos Buddsoddi yn Seilwaith Cymru »
Dyma rai enghreifftiau o’r prosiectau buddsoddi mewn seilwaith a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ledled Cymru.
Rhagor o wybodaeth »
- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru

