Rhoddodd Jane Hutt fanylion y cyllid ychwanegol i gynulleidfa ryngwladol o wneuthurwyr polisïau a chynrychiolwyr etholedig yn ogystal ag arbenigwyr ledled Cymru yng nghynhadledd CWLWM yng Nghaerdydd.
Mae CWLWM (Gofal Plant Cymru – Dysgu a Gweithio ar y Cyd) yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a sefydliadau cenedlaethol allweddol o fewn y maes gofal plant a chwarae.
Mae’r cyllid ychwanegol yn cynnwys:
- £3 miliwn yn ychwanegol dros y dair blynedd nesaf i fodloni gofynion Deddf Gofal Plant 2006, a ddaw i rym ym mis Ebrill 2008. Bydd y cyllid hwn yn galluogi awdurdodau lleol i ymchwilio a chynllunio’r gofal plant sydd ar gael, i benderfynu ar yr hyn sydd angen ei wneud.
- Bydd y cyllid ar gyfer Dechrau’n Deg yn cynyddu £8 miliwn dros dair blynedd. Bydd hyn yn caniatáu cynnydd o 10% yn nifer y plant sy’n elwa, gan gynnwys gofal plant am ddim i hyd at 17,600 o blant 2 flwydd oed o deuluoedd incwm isel ac mewn ardaloedd difreintiedig.
- £4.2 miliwn yn ychwanegol yn cael ei neilltuo i ysgolion bro dros dair blynedd ar gyfer gofal plant y tu allan i oriau.
Meddai Jane Hutt:
Gwnaeth ‘Cymru’n Un’, rhaglen ein Llywodraeth Glymblaid ymrwymiad i ddatblygu darpariaeth gofal plant fforddiadwy i bawb, gan gynnwys ehangu gofal plant di-dâl o ansawdd uchel i blant 2 flwydd oed yn yr ardaloedd mwyaf anghennus.
Mae’r arian ychwanegol hwn yn dangos ein bod yn cyflawni’r ymrwymiad hwnnw, a bydd hefyd yn helpu inni gyrraedd ein nod o gael gwared o dlodi plant erbyn 2020.
Ychwanegodd y Gweinidog:
Mae’r gynhadledd hon yn gyfle unigryw i ddod â’r bobl hynny sy’n gysylltiedig â gofal plant yng Nghymru at ei gilydd o dan yr un to, i drafod sut y gallwn ddarparu’r gofal plant gorau posibl i’n plant. Bydd hefyd yn bosibl inni ddysgu o brofiadau ein sefydliadau trawswladol sy’n bartneriaid yn yr Eidal, Ffrainc ac Estonia.
Dywedodd Liina Partel, o swyddfa’r Gweinidog dros y Boblogaeth a Materion Ethnig yn Estonia:
Bu’r cyfle i gyfarfod a chyfnewid arferion da gyda chydweithwyr yng Nghymru yn brofiad cyffrous a gwerthfawr, ac mae wedi creu cysylltiadau yr ydym yn gobeithio fydd yn parhau ymhell wedi i’r prosiect presennol ddod i ben.
Tachwedd 20, 2007











