Ceisir dull gweithredu sy'n canolbwyntio'n fwy ar y plentyn, a gallai hyn arwain at ofal am ddim i blant dwy oed sydd fwyaf mewn angen, a thaliadau ychwanegol i gyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yng Nghymru, gyda mwy i'r rheini sy'n byw mewn tlodi.
Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol a gynigir gan y Llywodraeth o dan bwerau a gyflwynwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru.
Bydd yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i atgyfnerthu'r ddeddfwriaeth bresennol mewn perthynas â phlant sy'n agored i niwed ac yn rhoi canllawiau mwy eglur i Awdurdodau Lleol a'u partneriaid ar eu dyletswyddau tuag at blant sy'n agored i niwed, pobl ifanc, a phlant mewn tlodi.
Meddai Mrs Thomas:
Dangosir y pwysigrwydd rydym yn ei roi ar blant yn yr ail Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol hwn ar gyfer Plant a Phobl Ifanc o dan raglen ddeddfwriaethol gyntaf Llywodraeth Cynulliad Cymru i arfer pwerau newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru.
Mae plant sy'n agored i niwed a mynd i'r afael â thlodi plant yn hollbwysig i raglen y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc.
Mae darparu cymorth ychwanegol i'r rheini sydd fwyaf mewn angen wrth wraidd ein holl bolisïau a'n rhaglen ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae 28 y cant o'r plant yng Nghymru yn dal i fyw mewn tlodi.
Er ein bod wedi gwneud cynnydd da yn y blynyddoedd diweddar, gyda'r cyfraddau tlodi ymysg plant yng Nghymru bellach yn is na chyfartaledd y DU am y tro cyntaf, nid ydym am laesu dwylo.
“Mae cyllidebau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi mwy o fuddsoddiad mewn plant, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar, ac mae cryn dipyn wedi cael ei wneud drwy ein rhaglenni gwrthdlodi fel Cymorth a Cymunedau yn Gyntaf. Eleni, byddwn yn parhau i gyflwyno 'Dechrau'n Deg', sydd wedi'i aneli at y grŵp 0-3 oed yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Bydd tua £46m ar gael rhwng 2006 a 2008 i gefnogi plant dan anfantais yn y blynyddoedd cynnar, gyda £15m ar gael yn 2006-7 a £31m ar gael yn 2007-8.
Mae 4,800 o blant yng ngofal awdurdodau lleol yng Nghymru ac mae tua 1,600 o bobl ifanc wedi gadael gofal. Fel rhieni corfforaethol, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol ac awdurdodau lleol gyfrifoldeb unigryw i sicrhau bod plant yn cael profiad cadarnhaol mewn gofal a'u bod yn cael y cyfleoedd a'r cymorth cywir fel bod ganddynt y sgiliau a'r hyder priodol pan fyddant yn gadael gofal i fyw bywydau annibynnol fel oedolion cyfrifol.
“Mae cryn dipyn wedi cael ei wneud drwy raglenni fel Rhoi Plant yn Gyntaf ond y nod yw cyflymu'r gwelliannau a'r canlyniadau i sicrhau bod y plant a'r bobl ifanc hyn yn cael y cychwyn gorau yn eu bywydau.
Er bod y ffigurau hyn yn dangos darlun trist o fywydau rhai o'r bobl sy'n fwyaf agored i niwed yng Nghymru, rwy'n falch y bydd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar gyfer Plant sy'n Agored i Niwed a Thlodi Plant yn galluogi'r Cynulliad i wneud gwelliant gwirioneddol i'w bywydau.
Bydd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol yn rhoi'r pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol roi newidiadau ar waith yn y gyfraith sy'n ymwneud â lles plant a phobl ifanc, yn enwedig er mwyn rhoi mwy o ffocws ar gefnogi teuluoedd a chymryd camau ataliol.
Mae'r camau arfaethedig i newid y gyfraith yn cynnwys:
- Ad-drefnu ac atgyfnerthu'r darpariaethau presennol
- Darparu fframwaith cyfreithiol i roi ar waith gamau allweddol ym mholisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer plant sy'n agored i niwed yng Nghymru
- Darparu taliad ychwanegol i gyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant a rhoi'r hawl am ofal am ddim i blant dwy oed sydd fwyaf mewn angen.
Bydd help yn cynnwys cael cynghorydd personol i gynnal cynllun “llwybr” a chymorth ehangach, gan gynnwys cyfraniadau at dreuliau a llety. Bydd pobl sy'n gadael gofal i bob pwrpas yn cael y cymorth a roddir gan rieni fel arfer. Bydd y cymorth hwn yn cael ei ddarparu nes bod y person ifanc yn ei ugeiniau.
10 Gorffennaf 2007











