Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Agor drysau Sefydliad Alacrity

Cafodd Sefydliad Alacrity – menter unigryw i helpu graddedigion disgleiriaf y DU i sefydlu cenhedlaeth newydd o gwmnïau uwch-dechnoleg yng Nghymru – ei agor yn swyddogol heddiw gan y Gweinidog Busnes Edwina Hart a Syr Terry Matthews.
Dydd Llun 03 Medi 2012

Wrth ddadorchuddio plac yn eu pencadlys newydd yng Nghasnewydd, croesawodd y Gweinidog agwedd arloesol rhaglen Entrepreneuriaeth Graddedigion Sefydliad Alacrity.

Nod Sefydliad Alacrity yw darparu sgiliau entrepreneuriaeth a chefnogaeth i raddedigion er mwyn sefydlu cwmnïau uwch-dechnoleg newydd. Mae’n gweithredu fel ymddiriedolaeth elusennol ac yn bartneriaeth ar y cyd rhwng sefydliad Wesley Clover Syr Terry, Llywodraeth Cymru, a’r buddsoddwyr preifat Sefydliad Waterloo ac Andrew Probert.

Bydd y Sefydliad yn dewis ac yn recriwtio 50 o’r graddedigion disgleiriaf ym maes peirianneg, gwyddoniaeth a busnes o brifysgolion o bob cwr o’r DU, gan fentora, hyfforddi a datblygu’r graddedigion. Y bwriad yw creu deg cwmni technoleg newydd yng Nghymru dros gyfnod o bum mlynedd.

Dywedodd Mrs Hart:

"Cwmnïau entrepreneuraidd ac arloesol yw’r rhai fydd yn helpu i greu’r twf mwyaf o ran swyddi yng Nghymru ac mae rhaglen Alacrity yn ysgogiad i greu’r cwmnïau hynny yn y sector TGCh.

"Mae cynllun Alacrity yn manteisio ar y cyfoeth o dalent ymysg ein graddedigion ac yn rhoi addysg, cyfle a mynediad at gyfalaf – pob un yn elfennau allweddol ar gyfer llwyddiant fel entrepreneur.

"Rhaid i ni wneud Cymru’n le mwy deniadol fyth ar gyfer busnesau ac mae fy mentrau – fel Band Eang y Genhedlaeth Nesaf, Ardaloedd Menter a rhaglenni Busnesau Newydd Twf Uchel – oll yn helpu i greu amgylchedd cystal â phosibl i ddechrau busnes.  Nawr mae Alacrity yn ychwanegu’n sylweddol at y gwaith hwn."

Dywedodd Syr Terry Matthews:

"Mae’n gyffrous iawn cael gweithio gyda’n partneriaid ym myd diwydiant a’r prifysgolion gyda’r bwriad o greu’r genhedlaeth nesaf o fusnesau technoleg. Bydd twf y cwmnïau newydd arloesol sy’n sefydlu eu pencadlys yn ein heconomi yn arwain at lwyddiant i Gymru.

"Mae’n graddedigion yn derbyn 3 elfen hanfodol ar gyfer llwyddiant drwy Alacrity: Addysg entrepreneuraidd, cyfleoedd a mynediad at gyfalaf. Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle euraidd i entrepreneuriaid ifanc greu busnesau cynaliadwy yn y sector gwybodaeth a chyfathrebu."

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Alacrity, yr Arglwydd David Currie:

"Mae Sefydliad Alacrity yn cefnogi cenhedlaeth newydd o entrepreneuriaid ym maes technoleg â’r potensial i adeiladu cwmnïau twf uchel a chreu swyddi crefftus iawn.

"Rydym yn falch iawn o weld y timau o raddedigion yn cydweithio i greu gwasanaethau a chynnyrch newydd. Mae’r amgylchedd sydd wedi’i greu gan Alacrity yn berffaith ar gyfer arloesi a llwyddiant."

Croesawodd Mrs Hart gefnogaeth dros hanner cant o fentoriaid proffesiynol sydd wedi ymrwymo i rannu eu doethineb a’u profiad gyda’r graddedigion.

Mae’n dweud ei fod yn adlewyrchiad o barodrwydd y gymuned fusnes yng Nghymru i helpu i feithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes a chrewyr cyfoeth.

Gorffennodd drwy ddweud bod y gwaith o ffurfio Alacrity wedi bod yn enghraifft berffaith o gydweithio ac mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn o weithio gyda holl arweinwyr, cefnogwyr a mentoriaid y rhaglen.
Mae Newport Unlimited - y cwmni adfywio trefol dros Gasnewydd, yn pia'r adeilad sydd yn eistedd ar gyfyl yr afon Wysg. Dywedodd Cadeirydd Newport Unlimited:

"Rydym yn bles iawn i groesawu'r corff sefydledig Alacrity i ganol Casnewydd ac i gefnogi eu gweladwriaeth i greu cartref ar gyfer graddeigion ifanc entrepreneuraidd.

"Mae creu busnesau newydd yn allweddol i adfywiad parhaol Casnewydd, yn ogystal â chefnogi'r economi ehangach. Mae angen i ni sicrhau bod ein graddedigion entrepeneuraidd yn meddwl am y ddinas fel cartef hir dymor tra bod eu busnesau yn ffynnu ac yn goroesi."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Busnes a'r economi

Tagiau

Busnes a'r economi 03 Medi 2012 Yr economi Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i