Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog yn rhoi sêl ei bendith i astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer pentref cynaliadwy newydd yn Felindre

Bydd astudiaeth yn cael ei chynnal o’r cynigion ar gyfer ymarferoldeb pentref cynaliadwy newydd ar safle maes glas 100 hectar sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru yn Felindre, Abertawe.
Dydd Llun 03 Medi 2012

Gallai’r pentref newydd arwain at adeiladu cymysgedd o dai fforddiadwy a thai i’r sector preifat ar y safle newydd arfaethedig yn ogystal â chyfleusterau fel ysgolion a chaeau chwarae a swyddi hefyd.

Mae Edwina Hart, y Gweinidog Busnes wedi cymeradwyo’r cyllid ar gyfer cynnal yr astudiaeth fydd yn cael ei chyflwyno’n ffurfiol fel rhan o’r broses ymgynghori ar Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Cyngor Dinas a Sir Abertawe.  

Dywedodd:  

"Mae’r CDLl yn disgrifio Felindre fel lle a all greu swyddi a darparu tai preswyl cymysg.  Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb o’r cynigion ar gyfer y pentref cynaliadwy newydd yn edrych yn fras sut bydd y tir yn cael ei ddefnyddio.  Bydd yr wybodaeth a gawn o’r astudiaeth yn ein helpu i wneud penderfyniadau yn y dyfodol ac mae’n hanfodol er mwyn symud y cynigion hyn yn eu blaenau."

Byddai’r pentref newydd yn ategu cynlluniau ar gyfer safle 60 hectar o dir llwyd gerllaw, hefyd yn Felindre.  Yn y gorffennol, roedd y safle hwn yn gartref i weithfeydd tunplât British Steel/Corus a gaeodd ei ddrysau yn 1989.  Bellach, mae’n eiddo i Gyngor Abertawe ac mae llawer o waith wedi cael ei wneud yn adfer y safle er mwyn ei wneud yn safle strategol ar gyfer swyddi.  

Yn 2006, roedd y safle’n gartref i’r Eisteddfod Genedlaethol ac ar sawl achlysur, mae un o gymalau Rali GB Cymru wedi cael ei gynnal yno.  Mae  caniatâd cynllunio wedi cael ei roi i adeiladu 80,000 metr sgwâr o swyddfeydd ac unedau diwydiannol ysgafn o ansawdd uchel ar y safle.  

Bydd y cam cyntaf o’r gwaith seilwaith ar gyfer 12 hectar o swyddfeydd a safleoedd diwydiannol ysgafn yn dechrau yn gynnar yn 2013.  Bydd y gwaith yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe gyda chymorth ychwanegol gan Ewrop.  

Yn 2009, cytunodd Llywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe ar Fenter ar y Cyd er mwyn cynnal yr amcanion cyflogaeth strategol ar gyfer y ddau safle mewn dull integredig.

Mae’r Llywodraeth a’r Cyngor bellach wedi cytuno bod angen cynnal astudiaeth sy’n ystyried ymarferoldeb y pentref cynaliadwy cyn ystyried y cynigion ymhellach.  Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno fel rhan o’r broses ymgynghori ar Opsiynau Strategol y Cynllun Datblygu Lleol.  Daw’r ymgynghoriad i ben fis Hydref 2012.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Datblygu cynaliadwy

Tagiau

Busnes a'r economi 03 Medi 2012 Yr economi Yr Amgylchedd Tai Programme for Government - Sustainability Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i