Mae gan Atticus Digital o Fae Caerdydd gynlluniau i ddatblygu amrywiaeth o apps a gemau pwrpasol ar gyfer y sector ynni byd-eang.
Mae’r cwmni wedi cael £44,750 gan Gronfa Digidol Llywodraeth Cymru i’w helpu gyda’r prosiect. Yn ôl Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, mae’r gronfa’n helpu cwmnïau cyfryngau digidol yng Nghymru i ddyfeisio nwyddau newydd a dod â hwy i’r farchnad, dysgu sgiliau newydd ac ennill busnes newydd y tu allan i Gymru.
Dywedodd:
"Mae’r farchnad gemau yn un o’r diwydiannau mwyaf cystadleuol yn y byd ac rwy’n hapus iawn bod Llywodraeth Cymru’n gallu helpu busnesau o Gymru fel Atticus Digital, sy’n arloesi yn eu maes, i gael fynd at farchnad sydd â’r gallu i greu swyddi, twf a chyfoeth."
Mae Atticus eisoes yn gweithio gyda rhai o gwmnïau ynni mwyaf y byd ac mae’n gwybod llawer am y sector ynni amgen a’i dechnolegau amrywiol.
Mae’r cwmni wedi meithrin arbenigedd yn y sector trwy helpu cwmnïau i egluro problemau a thechnolegau cymhleth i’w cleientiaid, rhanddeiliaid, busnesau a llywodraethau. Maent yn gwneud hyn trwy sawl dull animeiddio sy’n cael eu cynhyrchu gan gyfrifiadur fel graffeg symudol 2D ac animeiddio stereosgopig 3D realistig iawn.
Dywedodd Martin McCabe, Cyfarwyddwr Atticus fod y ffaith bod y cwmni’n symud i’r farchnad gemau ar ddyfeisiau symudol yn ddatblygiad naturiol.
"Mae’n bwysig bod cwmnïau’n gallu cyfleu eu neges yn effeithiol er mwyn gallu helpu pobl i ddeall mwy am broblemau fel newid yn yr hinsawdd, lleihau allyriadau carbon, y galw cynyddol am ynni, diogelu cyflenwadau ynni a rôl ynni amgen.
"Gall gemau ar ddyfeisiau symudol helpu i gyfleu negeseuon pwysig mewn ffordd ddifyr ond mewn ffordd sy’n addysgu’r defnyddiwr hefyd ac mae nifer o gwmnïau wedi cadarnhau eu bod am i ni greu gemau yn unswydd ar eu cyfer."
Ychwanegodd y byddant yn defnyddio’r arian y maent wedi’i gael gan y Gronfa Datblygu Digidol i sicrhau bod unrhyw hawliau Eiddo Deallusol y byddant yn eu creu yn cael eu cadw yng Nghymru.
Eglurodd:
"Er ein bod wedi gweithio i rai o’r cwmnïau a’r sefydliadau ynni mwyaf yn y byd, nid ydym erioed wedi bod yn berchen ar Eiddo Deallusol nac wedi cael unrhyw freindaliadau neu ffrwd refeniw parhaus yn ei sgil felly, bydd yn fonws mawr.
"Rydym yn gwerthfawrogi’r help yr ydym wedi’i gael gan Lywodraeth Cymru. Mae gennym dîm talentog iawn sy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio yn y sector newydd hwn ac at ddatblygu sgiliau newydd hefyd."
Ar hyn o bryd, mae gan Atticus Digital gleientiaid ym Mhrydain, UDA, Canada, y Dwyrain Canol, Asia ac Awstralia. Mae’n ddatblygydd cofrestredig ar gyfer Apple ac mae’n cynhyrchu Apps ar gyfer platfform iOS ond ei fwriad yn y dyfodol yw gallu creu gemau sy’n gallu gweithio ar bob math o wahanol blatfformau.











