Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Uned newydd i helpu amddiffyn busnesau rhag troseddu

Mae’r Gweinidog Busnes Edwina Hart wedi cyhoeddi ei bod am sefydlu Uned Troseddu yn erbyn Busnesau er mwyn helpu amddiffyn busnesau rhag trosedd – ymrwymiad a amlinellir yn y Rhaglen Lywodraethu.
Dydd Gwener 20 Gorffennaf 2012

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig arweiniad cyffredinol ar godi ymwybyddiaeth o droseddau busnes a’u heffaith economaidd, a rhoi i fusnesau Cymru yr wybodaeth a’r teclynnau i fod yn ymwybodol, yn wyliadwrus ac yn y pen draw amddiffyn eu hunain rhag trosedd.

Dywedodd Mrs Hart wrth Aelodau’r Cynulliad y caiff hyn ei gyflawni drwy declynnau ar-lein a chanllawiau ac arferion da a addysgir drwy seminarau a gweithgareddau cefnogi busnes.  Meddai:

"E-droseddu yw cyfran arwyddocaol o droseddu busnes ac wrth i fusnesau barhau i fwynhau buddion TGCh, ac wrth i ni symud i economi fwyfwy digidol, mae effaith potensial e-droseddu ar fusnesau yn cynyddu.

"Bydd yr Uned yn darparu rhaglen weithredu er mwyn amddiffyn ac addysgu busnesau ar draws pob sector mewn atal troseddu busnes a seiberddiogelwch, a rhoi cyfle i fusnesau yn y Sector TGCh ychwanegu at eu portffolio o wasanaethau."

Dywedodd Mrs Hart y byddai’r Uned yn gweithio i sicrhau bod lluoedd yr heddlu yng Nghymru yn ymwybodol o faterion arwyddocaol troseddu yn erbyn busnesau, ar sail Cymru gyfan ac ar lefel leol, ac felly’n gallu cymryd camau pellach i helpu i amddiffyn busnes.

Bydd panel o arbenigwyr gyda chynrychiolwyr o fyd busnes, yr heddlu a’r Llywodraeth yn cael ei sefydlu i fod yn grŵp aml-asiantaeth sy’n rhoi cyngor a chefnogaeth i lywio datblygiad yr Uned Troseddu yn erbyn Busnesau.

Dywedodd Mrs Hart fod darparu cyllid ychwanegol i dalu am y gost o nifer bychan o swyddogion â gwarant a fydd yn targedu troseddu yn erbyn busnesau yn benodol yn fater oedd wedi cael ei archwilio, ond nid oedd yn ymarferol gan nad yw gweithdrefnau rheoli’r heddlu yn caniatáu i dargedu adnoddau yn benodol fel hyn.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Busnes a'r economi 20 Gorffennaf 2012 Programme for Government - Growth Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i