Comisiynwyd John McClelland CBE gan y Gweinidog Cyllid ym mis Chwefror i graffu ar sut y gellid gwneud y gorau o bolisi caffael Llywodraeth Cymru.
Canfu Mr McClelland bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud dros y blynyddoedd diweddar. Nododd bryderon, fodd bynnag, nad yw pob sefydliad sector cyhoeddus yn rhoi polisi Llywodraeth Cymru ar waith a bod angen i lawer ohonynt fuddsoddi llawer mwy ym maes sgiliau caffael proffesiynol. Mae wedi gwneud 28 o argymhellion i gyd.
Dywedodd Jane Hutt:
"Mae sut rydyn ni’n gwario arian cyhoeddus yn hanfodol yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae angen i ni sicrhau bod pob ceiniog sy’n cael ei gwario yn sicrhau gwerth gorau am arian i fusnesau ac unigolion Cymru.
"Gofynnais i John McClelland edrych ar yr effaith y mae ein polisïau caffael yn eu cael ar lawr gwlad ac argymell gwelliannau. Mae gan John wybodaeth eang iawn yn y maes hwn a hoffwn ddiolch iddo am ei amser a’i arbenigedd wrth gynnal yr adolygiad.
"Mae’n galonogol ei fod wedi cydnabod ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol yng Nghymru o ran gwella caffael cyhoeddus. Mae hefyd wedi cydnabod bod rhai o’n polisïau ar flaen y gad o ran datblygu caffael y sector cyhoeddus yn y DU.
"Yn awr, fe ystyriwn argymhellion John yn ofalus i sicrhau ein bod yn ymateb ar draws y sector cyhoeddus yn y ffordd fwyaf effeithiol."











