Roedd y rhaglen £1 miliwn, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, yn gofyn am syniadau ar gyfer datblygu sector cyfryngau hyperleol sy’n cynnwys newyddion ar-lein neu wasanaethau cynnwys sy’n berthnasol i dref, pentref, cod post neu gymuned fach arall ag iddi ffiniau daearyddol pendant.
Dan arweiniad Nesta a Bwrdd Strategaeth Technoleg, bydd y rhaglen yn nodi’r technolegau, y modelau busnes, y cyfleoedd ar gyfer creu cynnwys a’r heriau sy’n gysylltiedig â’r sector cyfryngau hyperleol llwyddiannus yn y DU.
Cyflwynwyd deg cais gan Gymru fel rhan o gystadleuaeth Cyrchfan Leol 165 a daeth ‘Papur Dre’ o Gaernarfon a My Town o’r Trallwng a’r Drenewydd i’r brig.
Llongyfarchodd Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, y timau oedd yn gyfrifol am geisiadau Cymru, dywedodd:
"Mae’n newyddion da bod dau brosiect o Gymru wedi cael eu dewis. Mae hyn yn profi bod gan fusnesau Cymru’r gallu i gyfrannu at y sector pwysig hwn.
"Mae rhaglen Cyrchfan Leol yn gyfle gwych i unigolion a busnesau yng Nghymru i gael cyllid a gwneud cyfraniad pwysig at ddatblygu’r sector cyfryngau hyperleol. Mae hwn yn sector newydd ac mae ganddo’r potensial i dyfu, cynnig cyfleoedd busnes newydd ac ar yr un pryd, darparu gwasanaethau gwerthfawr i gymunedau lleol."
Y prosiectau llwyddiannus:
Yn ogystal â dau safle My Town yn Sir Fynwy, bydd yn lansio safleoedd newydd. Bydd yn creu ap ar gyfer ffonau symudol Android ac iOS ar gyfer pob un o’i safleoedd a bydd yr ap hwn yn rhoi gwybodaeth benodol i’r defnyddiwr am leoliadau penodol e.e. bydd modd cael y newyddion diweddaraf am y lleoliad hwnnw ar ffôn symudol. Hefyd, bydd modd defnyddio’r gwasanaeth i greu hysbysiadau (push notifications) a bydd defnyddwyr yr ap yn gallu lanlwytho eu cynnwys un hunain.
Papur newydd cymunedol yw Papur Dref sy’n gweithio gyda Cwmni Da, cwmni cynhyrchu teledu a Choleg Menai, coleg addysg bellach yn y Gogledd-orllewin. Gyda’i gilydd, byddant yn creu gwasanaethau Cymraeg ar gyfer ffonau symudol sy’n darparu newyddion a gwybodaeth trwy ddefnyddio lluniau, testun a fideo. Bydd myfyrwyr y coleg yn cael cyfle i greu cynnwys ar gyfer y gwasanaeth ac i gynhyrchu sianel newyddion fideo hyperleol.
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Rhaglen Nesta, Jon Kingsbury:
"Rydym yn falch iawn bod dau brosiect o Gymru wedi cael eu dewis i ddarparu gwasanaethau gwybodaeth lleol o ansawdd i gynulleidfaoedd arbenigol. Byddwn yn defnyddio’r rhaglen Cyrchfan Leol fel prototeip ar gyfer y genhedlaeth nesaf o’r math hwn o wasanaeth. Y nod fydd ceisio gweld a fyddai modd defnyddio’r technolegau a’r platfformau newydd hyn i gynnal modelau cynaliadwy a mesuradwy i wasanaethu cymunedau lleol a chreu buddiannau economaidd."











