Mae’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru i Hybu Twf a Swyddi yn rhoi amlinelliad clir o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau seilwaith mawr a sut y byddant yn ystyried dulliau ariannu arloesol i ategu eu cynlluniau.
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:
"Rydym ni fel llywodraeth wedi ymrwymo i ddarparu seilwaith a chreu swyddi. Rydym ni’n awyddus i achub ar bob cyfle i gynyddu buddsoddiad cyfalaf, er gwaetha’r gostyngiadau difrifol yn ein cyllideb.
"Rydym ni am greu Cymru sydd ag economi gref gyda rhwydweithiau ynni, technoleg gwybodaeth a thrafnidiaeth sy’n gweddu i’r unfed ganrif ar hugain. Rydym ni am weld Cymru isel mewn carbon y mae cynaliadwyedd yn greiddiol iddi a Chymru grefftus ac effeithlon lle gall busnesau ffynnu a lle mae ein harbenigedd yn enwog ledled y byd. Drwy y Cynllun gallwn wneud i hynny ddigwydd."
Mae’r Cynllun yn amlinellu saith blaenoriaeth lefel uchel:
- Gwella’r rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru
- Gwella rhwydweithiau telathrebu
- Cefnogi datblygiad y diwydiant ynni yng Nghymru
- Buddsoddi mewn tai
- Darparu gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithlon a darbodus yn y GIG
- Gwella ansawdd yr ystâd addysg, yn enwedig ysgolion
- Datblygu ein Hardaloedd Menter
Dywedodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt:
"Am y tro cyntaf rydym ni’n rhoi gweledigaeth glir i’r sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector o’n blaenoriaethau dros y 10 mlynedd nesaf. Bydd hynny’n eu helpu i sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau – gyda sgiliau ac adnoddau digonol – i gefnogi’r prosiectau allweddol y byddwn yn eu hariannu.
"Mae yna heriau mawr yn ein hwynebu sy’n gofyn am ddull mwy strategol a mwy o ffocws. Cam cyntaf yn unig yw’r hyn yr ydym ni wedi’i gyhoeddi heddiw tuag at gyflawni hynny. Rydym ni’n awyddus i ddatblygu’r Cynllun gyda’n partneriaid fel ein bod ni’n cael y gwerth mwyaf posibl o’n buddsoddiadau."
Mae’r Cynllun hefyd yn amlinellu dulliau newydd, arloesol o ariannu prosiectau mawr.
Ychwanegodd Gerry Holtham, a roddodd gyngor i Lywodraeth Cymru ar y Cynllun:
"Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau defnyddio ffyrdd newydd o ariannu prosiectau, fel y Fenter Benthyca Llywodraeth Leol a chymorth ar gyfer Bond Tai Cymru i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy. Mae angen i ni adeiladu ar sail y datblygiadau hyn er mwyn canfod cyllid i gyflwyno buddsoddiadau eraill sydd o fudd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.
"Er gwaethaf cyflwr cythryblus y marchnadoedd arian yn sgil yr argyfyngau economaidd, mae yna gyllid ar gael ar gyfer prosiectau cadarn gyda ffrydiau refeniw sicr ac mae’n rhaid i ni ganfod ffyrdd arloesol o fanteisio ar yr adnoddau hynny."
Yn ogystal, ac yn dilyn trafodaethau adeiladol a arweiniodd at gytundeb gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar nifer o elfennau, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid becyn o fuddsoddiadau heddiw a fydd yn creu neu’n gwarchod dros 1,300 o swyddi. Mae hwn yn cynnwys:
- ymrwymiad i ddatblygu cynllun gwarantu morgeisi i Gymru er mwyn cefnogi adeiladwyr tai a helpu’r rhai sy’n prynu am y tro cyntaf
- £5m atodol ar gyfer effeithlonrwydd ynni cartref – £3m i Nyth a £2m i Arbed – bydd 1000 yn rhagor o gartrefi yn elwa ar hynny
- £6m i ehangu’r cynllun llwyddiannus Partneriaeth Tai Cymru, gan sicrhau cyfanswm o £30m o fuddsoddiad er mwyn darparu 280 o dai teuluol i’w gosod ar rent canolradd
- £5m i ddyblu maint y gronfa tai gwag y gellir eu hailgylchu, gan gyfrannu at ein targed o sicrhau bod 5,000 o dai gwag yn dechrau cael eu defnyddio eto yn ystod tymor y Cynulliad hwn
Mae’r cyhoeddiad hefyd yn cynnwys:
- £2.7m ar gyfer gwelliannau i gyffyrdd yr M4
- £4m atodol i gyflymu’r gwaith ar gynlluniau hanfodol i amddiffyn rhag llifogydd, er mwyn lleihau effaith llifogydd ac erydu arfordirol ar ein cymunedau
- £6.8m i gyflymu’r gwaith ar brosiectau ysbytai mawr yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Llandochau.
£500k i sicrhau lleoliadau ar gyfer 'Siopau Un Stop' cam-drin domestig yn Sir Benfro, Abertawe a Gwynedd - £5m yn ychwanegol i gefnogi prosiectau ysgolion yn Llanbedr Pont Steffan, Sir Ddinbych, Abercynon a Phenarth a £3m ar gyfer y campws ôl-16 newydd yng nghanol Caerdydd
- £3.5m i gefnogi gwaith hanfodol ar seilwaith safle Northern Gateway yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy
- £2.5m i hybu Cronfa Twf Economaidd Cymru er mwyn cefnogi Busnesau Bach a Chanolig Cymru.











