Tîm Croeso Cymru Llywodraeth Cymru sydd wedi trefnu’r trip mewn partneriaeth â Helvetic Airways i hyrwyddo’r cyswllt newydd rhwng Zurich a Chaerdydd a denu mwy o dwristiaid.
Mae wyth cwmni yn cymryd rhan ac nid yw nifer ohonynt yn cynnwys Prydain ar eu rhaglenni ar hyn o bryd. Bydd y trip yn gyfle felly inni ddangos a gwerthu Cymru fel cyrchfan wyliau unigryw.
Ar y llaw arall, mae Falcon Travel – un o gwmnïau teithiau mwya’r rhanbarth –yn hyrwyddo Cymru ar 20 o dudalennau yn eu llyfryn am Brydain. Mae eu teithiau’n cynnwys teithiau cylch, teithiau mewn car rhent, teithiau cerdded, teithiau bwyd, gwestai yng Nghaerdydd, llety gwely a brecwast, gwestai gwledig a bythynnod yn y De a’r Gogledd.
Meddai’r Gweinidog Busnes Edwina Hart ei bod yn bwysig ein bod yn gwneud y gorau o’r cyswllt rhwng Zurich a Chaerdydd a’i hyrwyddo ymhlith pobl ar wyliau ac ymwelwyr busnes:
"Rwy’n falch o fedru cael cefnogi’r ymweliad hwn. Bydd yn rhoi blas i gwmnïau teithiau o’r hyn sydd gennym i’w gynnig yng Nghymru – ei hanes, ei threftadaeth a’i diwylliant, amrywiaeth o weithgareddau hamdden a golygfeydd a thirluniau hardd a thrawiadol. I lawer ohonynt, hwn fydd eu hymweliad cyntaf ac mae’n gyfle rhagorol i hyrwyddo Cymru a dangos mor hawdd yw dod yma yn sgil lansio’r cyswllt rhwng Zurich a Chaerdydd llynedd."
Ychwanegodd Spencer Birns, Pennaeth Gweithrediadau Masnachol a Datblygu Gwasanaethau Awyr Maes Awyr Caerdydd:
"Rydym yn disgwyl ymlaen at groesawu’r trefnwyr teithiau i Gymru er mwyn iddyn nhw gael gweld drostyn nhw’u hunain yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig i’r farchnad wyliau a busnes.
"Mae canran uchel o’r rheini sy’n hedfan o Zurich i Gymru yn dwristiaid ac rwy’n gobeithio y bydd y trip hwn yn addysgu’r trefnwyr teithiau er mwyn iddyn nhw allu gwerthu Cymru i fwy o deithwyr."
Noddir y daith gan Cardiff & Co and Southern Wales sydd wedi helpu i lunio’r rhaglen sy’n cynnwys ymweliadau â chestyll, safleoedd treftadaeth, gwestai a thai bwyta yn ogystal â chyfle i fwynhau canolfan siopa Caerdydd a Bae Caerdydd.











