Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Annog cwmnïau i ymgeisio ar gyfer Gwobr y Frenhines am Fenter

Mae’r Gweinidog Busnes, Edwina Hart yn annog cwmnïau Cymru i anelu’n uchel ac ymgeisio ar gyfer Gwobr y Frenhines am Fenter – y gwobrau busnes uchaf eu bri yn y DU ac arwydd cydnabyddedig o ragoriaeth.
Dydd Iau 09 Awst 2012

Cyflwynir Gwobrau’r Frenhines am Fenter am lwyddiant rhagorol gan fusnesau’r DU yng nghategorïau Arloesi, Masnach Ryngwladol a Datblygu Cynaliadwy, ac mae Gwobr y Frenhines am Hyrwyddo Menter yn cael ei dyfarnu i unigolion.

Dywedodd Mrs Hart:

“Mae llawer o fusnesau arloesol a mentrus tu hwnt yng Nghymru sydd â’r potensial i ennill un o’r Gwobrau mawreddog hyn, ac rwy’n annog rhagor o gwmnïau i dderbyn y sialens ac ymgeisio ar gyfer Gwobrau 2013 i ymuno â rhengoedd yr enillwyr blaenorol o Gymru.

“Mae’r Gwobrau’n cydnabod ac yn gwobrwyo llwyddiant ac yn medru dod â manteision gwirioneddol i gwmnïau sy’n gwneud cyfraniad rhagorol i’r diwylliant o fenter yng Nghymru. Mae’r Gwobrau’n uchel eu parch o fewn y diwydiant, yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol ac yn arf marchnata gwych a gwerthfawr i fusnesau, yn helpu i godi eu proffil ac yn helpu i roi hwb i’w busnes.

“Gall cwmnïau sy’n methu ennill Gwobr hefyd elwa o fynd drwy’r broses a derbyn adborth sy’n medru rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i ddatblygu eu busnesau ymhellach.”

Cafodd Mrs Hart gyfarfod yn ddiweddar â nifer o enillwyr Gwobrau 2012 o Gymru a ychwanegodd eu persbectif unigryw hwy i’r broses o ddatblygu Strategaeth Arloesi i Gymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am Wobrau 2013 yw 28 Medi 2012.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Gwefannau

Queen's award for Enterprise

Tagiau

Busnes a'r economi 09 Awst 2012 Yr economi Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i