Cyflwynir Gwobrau’r Frenhines am Fenter am lwyddiant rhagorol gan fusnesau’r DU yng nghategorïau Arloesi, Masnach Ryngwladol a Datblygu Cynaliadwy, ac mae Gwobr y Frenhines am Hyrwyddo Menter yn cael ei dyfarnu i unigolion.
Dywedodd Mrs Hart:
“Mae llawer o fusnesau arloesol a mentrus tu hwnt yng Nghymru sydd â’r potensial i ennill un o’r Gwobrau mawreddog hyn, ac rwy’n annog rhagor o gwmnïau i dderbyn y sialens ac ymgeisio ar gyfer Gwobrau 2013 i ymuno â rhengoedd yr enillwyr blaenorol o Gymru.
“Mae’r Gwobrau’n cydnabod ac yn gwobrwyo llwyddiant ac yn medru dod â manteision gwirioneddol i gwmnïau sy’n gwneud cyfraniad rhagorol i’r diwylliant o fenter yng Nghymru. Mae’r Gwobrau’n uchel eu parch o fewn y diwydiant, yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol ac yn arf marchnata gwych a gwerthfawr i fusnesau, yn helpu i godi eu proffil ac yn helpu i roi hwb i’w busnes.
“Gall cwmnïau sy’n methu ennill Gwobr hefyd elwa o fynd drwy’r broses a derbyn adborth sy’n medru rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i ddatblygu eu busnesau ymhellach.”
Cafodd Mrs Hart gyfarfod yn ddiweddar â nifer o enillwyr Gwobrau 2012 o Gymru a ychwanegodd eu persbectif unigryw hwy i’r broses o ddatblygu Strategaeth Arloesi i Gymru.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am Wobrau 2013 yw 28 Medi 2012.











