Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Dyddiad cau ar ein gwarthaf ar gyfer cyllid o £500,000 ar cyfer cynllun STEM

Mae Llywodraeth Cymru yn annog ceisiadau terfynol ar gyfer cyllid o £500,000 i hyrwyddo rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yng Nghymru.
Dydd Mawrth 07 Awst 2012

Mae cynllun yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol yn cynnig cymorth ariannol dewisol ar gyfer gwaith ymgysylltu a gweithgareddau STEM. Mae’r cynllun yn targedu gweithgareddau at ddisgyblion ysgol o’r cyfnod sylfaen hyd at 14 i 19 oed, yn ogystal â sefydliadau addysg bellach ac uwch.

Mae Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, yr Athro John Harries, yn annog ceisiadau cyn dyddiad cau 24 Awst.

Dywedodd yr Athro Harries:

"Mae’n hanfodol ein bod yn annog twf gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yng Nghymru. Mae’n rhaid i ni ehangu a chyfoethogi’n sylfaen sgiliau os ydym am adfywio’r economi yn yr hirdymor. Mae angen i ni wneud STEM yn fwy effeithiol ledled Cymru sy’n hanfodol i les economaidd y wlad."

Mae gweithgareddau’n cynnwys gweithdai, heriau, clybiau gwyddoniaeth ar ôl ysgol, cyfleoedd datblygu staff, darlithoedd cyhoeddus a dadleuon ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus.

Mae darparwyr STEM yn cynnwys cymdeithasau STEM, cyrff proffesiynol y DU â chynrychiolaeth yng Nghymru, cymdeithasau dysgedig, sefydliadau addysg bellach ac uwch, darparwyr hyfforddiant a chwmnïau gyrfaoedd.

Lansiwyd yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol gan Lywodraeth Cymru yn 2010 fel cynghrair gydweithredol o sefydliadau â buddiannau STEM.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cynllun Grant yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol

Tagiau

Busnes a'r economi 07 Awst 2012 Programme for Government - Education Programme for Government - Growth Ysgolion Prifysgolion a cholegau Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i