Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Edwina Hart yn croesawu’r cyhoeddiad y bydd canolfan ymchwil a datblygu Panasonic yn agor yng Nghaerdydd

Mae’r Gweinidog Busnes, Edwina Hart, wedi croesawu’r cyhoeddiad swyddogol bod Panasonic yn bwriadu agor canolfan Ymchwil a Datblygu yng Nghaerdydd i addasu celloedd tanwydd ar gyfer y farchnad ddomestig.
Dydd Llun 06 Awst 2012

Mae Panasonic wedi bod yn gweithgynhyrchu systemau celloedd tanwydd ar gyfer cartrefi yn Japan ers nifer o flynyddoedd ac maen nhw’n bwriadu cyflwyno cynnyrch tebyg i’r farchnad Ewropeaidd a Phrydeinig.

Dywedodd Mrs Hart bod Llywodraeth Cymru wedi cydweithio’n agos â Panasonic i sefydlu’r cyfleuster Ymchwil a Datblygu celloedd tanwydd ym Mhentwyn, Caerdydd.

"Mae Panasonic yn un o’r cwmnïau mwyaf blaenllaw yn y byd yn y dechnoleg carbon isel hon" meddai, "ac mae’n newyddion ardderchog eu bod wedi dewis lleoli’r rhaglen ymchwil bwysig hon yng Nghymru.

"Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad swyddogol hwn heddiw, ac rwy’n falch dros ben bod Llywodraeth Cymru wedi helpu i sicrhau’r buddsoddiad drwy gynnig £456,000 o gymorth o’n rhaglen gyllido Ymchwil Datblygu ac Arloesi."

Bydd y ganolfan newydd yn agor ym mis Medi, a bydd yn addasu a newid cynnyrch celloedd tanwydd i’r farchnad Ewropeaidd a Phrydeinig. Mae celloedd tanwydd yn troi tanwydd megis hydrogen a nwy naturiol yn drydan drwy adwaith electrogemegol ac mae’r gwres a gynhyrchir yn gallu gwresogi adeiladau.

Y nod yw y bydd y celloedd tanwydd hyn yn ateb y rhan fwyaf o ofynion gwresogi, dŵr poeth a thrydan y cartref cyffredin yn y DU, gan adael ôl troed carbon llawer llai.

Dywedodd Mr. T. Shimizu, Pennaeth Grŵp Busnes Celloedd Tanwydd Panasonic, ei bod yn briodol, o ystyried cysylltiadau hanesyddol Cymru â datblygiad celloedd tanwydd, bod canolfan ymchwil yng Nghaerdydd yn cael gwneud cyfraniad allweddol i’r dyfodol.

Rhoddodd ddiolch hefyd i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth i’r prosiect.

Gwnaed y cyhoeddiad hwn ym Mhafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol, lle mae Panasonic yn cymryd rhan mewn arddangosfa ehangach am Syr William Robert Grove, y barnwr, dyfeisiwr a ffisegwr a ddatblygodd y gell danwydd sylfaenol gyntaf erioed ym 1842.

Bydd yr arddangosfa yn olrhain hanes y gell danwydd o gyfnod Syr William i’r presennol, a bydd Panasonic yn dangos eu cell danwydd nhw sy’n cyfuno gwres a phŵer – dyma’r gell y bydd y ganolfan ymchwil a datblygu yn gweithio arni. Hefyd, gwelir rhai o’r eitemau eraill y mae cwmni Panasonic yn eu cynhyrchu yn y DU, e.e. gliniaduron diwydiannol.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Busnes a'r economi 06 Awst 2012 Ynni Programme for Government - Growth Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i