Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cwmni newydd yn cael ei sefydlu gyda chefnogaeth Cronfa Twf Economaidd

Mae dau gwmni cynllunio ariannol sydd wedi eu hen sefydlu wedi ymuno â’i gilydd i greu menter newydd yn ne Cymru er mwyn cynghori Busnesau Bach a Chanolig ar y ddeddfwriaeth ddiweddaraf ar gyfer cynlluniau pensiwn cwmnïau.
Dydd Mercher 25 Gorffennaf 2012
Cwmni newydd yn cael ei sefydlu gyda chefnogaeth Cronfa Twf Economaidd
Robbie Weston a Jon Francis

O dan y ddeddf newydd mae’n rhaid i gyflogwyr ddarparu cynllun pensiwn cwmni ar gyfer eu staff o fis Hydref 2012, waeth beth yw maint y sefydliad. Mae ymchwil yn dangos nad yw nifer o Fusnesau Bach a Chanolig  yn ymwybodol o oblygiadau’r ddeddfwriaeth hon.

Mae Workplace Pensions Solutions (DU) wedi ei sefydlu gan Robbie Weston, o Tudor House Financial Services, Caerdydd, a Jon Francis, o Self Invested Portfolios Ltd, Abertawe, i dargedu’r farchnad Busnesau Bach a Chanolig sydd ddim yn cael eu cynnwys ar hyn o bryd yng ngwaith y prif gwmnïau ymgynghorol ar bensiynau.  

Mae’r busnes newydd, sydd wedi cael cymorth gwerth £125,000 gan Gronfa Twf Economaidd Cymru, wedi ei leoli ym Mharc Nantgarw, ger Caerffili, a hefyd mewn swyddfeydd ym Mharc Anturiaeth Abertawe, ac mae bwriad i greu naw swydd newydd yn ystod 2012.

Dywedodd Jon Francis mai amcan y busnes newydd yw helpu a chynghori  Busnesau Bach a Chanolig gyda’r hyn sydd yn faterion reit gymhleth fydd yn cyflawni angen go iawn.

“Yn ôl Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu nid yw mwyafrif y Busnesau Bach a Chanolig wedi ystyried goblygiadau’r ddeddfwriaeth hon a dyma’r maes y byddwn yn canolbwyntio arno.

“Mae’r buddion o gyflwyniadau graddol yn sylweddol i Fusnesau Bach a Chanolig – yn wahanol i aros hyd nes ei bod yn wirioneddol angenrheidiol ac mae yna farchnad eang ar gyfer cwmnïau sy’n canolbwyntio ar yr agwedd hon o gyngor ariannol.

“Roedd cefnogaeth y Gronfa Twf Economaidd yn ein galluogi ni i fwrw ymlaen gyda’r fenter yma ar y cyd. Mae’n golygu ein bod yn gallu cymryd mantais o’r cyfle hwn fyddai wedi bod yn anodd ei gyflawni mor gyflym heb y cyllid yma.”

Dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart:

"Sefydlodd Llywodraeth Cymru y Gronfa Twf Economaidd er mwyn cefnogi twf busnes yn ystod cyfnod economaidd anodd ac rwy’n falch o weld ei fod wedi helpu’r busnes newydd hwn gychwyn.

“Mae Workplace Pensions Solutions yn ychwanegiad newydd i’w groesawu i’r sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol, un o’n prif sectorau  economaidd gyda photensial cryf i dyfu."

Mae Robbie Weston a Jon Francis yn Gynllunwyr Ariannol Siartredig ac mae eu dau bractis presennol yn dal y teitl corfforaethol cyfwerth, y lefel uchaf o achredu a ddyfernir gan y Sefydliad Yswiriant Siartredig i ymgynghorwyr ariannol yn y DU.

Ychwanegodd Jon bod llai na 5% o ymgynghorwyr ariannol a phractisau yn dal y teitlau yma ar hyn o bryd, felly mae cael dau yn cydweithio yng Nghymru yn llwyddiant nodedig ac yn creu tîm cryf iawn. 

Mae’r ddau wedi rhoi cryn fuddsoddiad mewn marchnata a datblygu technoleg fydd yn llywio’r busnes newydd. 

I ddechrau mae Workplace Pensions Solutions yn darparu newyddion a gwybodaeth am gofrestru awtomatig drwy gyfres o seminarau sydd hyd yn hyn wedi digwydd rhwng  Caerfyrddin a Bryste, ond eu cynlluniau yw ymestyn ar hyd coridorau'r M4 a’r M5 cyn gynted â phosib gan fod eu technoleg ar-lein yn golygu nad oes cyfyngiadau daearyddol.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cronfa Twf Economaidd Cymru 2

Tagiau

Busnes a'r economi 25 Gorffennaf 2012 Yr economi Programme for Government - Growth Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i