OSTC oedd y cwmni masnachu deilliadau cyntaf i gael ei sefydlu yng Nghymru a bydd y datblygiad hwn yn creu 132 o swyddi newydd. Bydd y cwmni’n recriwtio graddedigion o Ysgolion Llawr Masnachu Prifysgol Morgannwg a Chaerdydd yn bennaf ynghyd â myfyrwyr o Brifysgol Abertawe.
Ar ddiwedd y cyfnod recriwtio, bydd OSTC yn recriwtio 210 o staff yn Abertawe ac yno bydd eu swyddfa fwyaf wedi’i lleoli.
Mae’r prosiect yn cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru ac mae hynny wedi helpu i ddenu’r buddsoddiad hwn i Gymru yn hytrach nag i un o’r lleoliadau eraill oedd yn cael eu hystyried.
Mae’r buddsoddiad hwn yn dilyn prosiect arall a gyhoeddwyd yn gynharach eleni sydd wedi cael cymorth gan Gronfa Twf Economaidd Cymru. Gyda’r grant hwn, bydd OSTC yn gallu creu 19 o swyddi wrth sefydlu tîm newydd a fydd yn arbenigo mewn marchnadoedd masnachu ynni.
Yn ystod ymweliad a OSTC dywedodd Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, bod hwn yn hwb i Sector Ariannol a Gwasanaethau Proffesiynol Cymru, un o naw sector pwysig sydd â’r potensial i dyfu’n sylweddol.
Wrth longyfarch OSTC, dywedodd Mrs Hart:
“Bydd y prosiect ehangu mawr hwn yn helpu i roi Cymru ar y map fel canolfan sy’n tyfu ar gyfer yr is-sector arbenigol hwn. Bydd hefyd yn creu nifer sylweddol o swyddi sy’n galw am sgiliau o lefel uwch fydd yn galluogi graddedigion i aros yng Nghymru a dilyn gyrfa yn y maes hwn gan ddenu’r dalent ddisgleiriaf i Gymru.
“Mae OSTC Wales wedi tyfu’n sylweddol ers iddynt ddechrau masnachu yn Abertawe yn 2009 ac rwy’n falch o glywed eu bod yn gweithio’n agos â Phrifysgolion Cymru ac yn gallu recriwtio graddedigion o’r radd flaenaf sydd eu hangen i gefnogi twf busnes.”
Dywedodd Michael Shirley, Cyfarwyddwr Rheoli OSTC Cymru:-
“Mae OSTC yn falch iawn o fod ar flaen y gad yn ein diwydiant ac yn gyflogwr y mae pobl yn dymuno gweithio iddo. Mae hefyd yn arweinydd byd-eang mewn masnachu deilliannau ac mae ganddo 12 o swyddfeydd wedi’u rhannu rhwng Prydain, Ewrop, Asia a Gogledd America. Mae’n arbenigo mewn gwneud y mwyaf o botensial pob masnachwr a chyfleoedd masnachu yn y marchnadoedd y mae'n arbenigo ynddyn nhw. Cafodd OSTC Wales gydnabyddiaeth am hyn yn ddiweddar trwy ennill gwobr Aur Buddsoddwyr mewn Pobl.”
Mae OSTC Wales yn enwog am recriwtio a hyfforddi graddedigion talentog i weithio mewn marchnadoedd ariannol gan ddefnyddio systemau meddalwedd electronig arbenigol ac unigryw.
Ffurfiwyd OSTC Wales fel cyd-fenter rhwng Kondot Training Ltd ac OSTC Ltd. Mae OSTC bellach yn flaenllaw wrth fasnachu nwyddau meddal fel coco, coffi a siwgr, marchnadoedd ynni, marchnadoedd amaethyddol a marchnadoedd incwm sefydlog.
Bydd proses recriwtio OSTC Wales ar gyfer ehangu’r cwmni’n digwydd yn 2013 a rhwng hynny a 2017, byddant yn penodi graddedigion ddwywaith y flwyddyn - bob mis Chwefror a mis Medi.











