Bydd y busnes o Fachynlleth, sy’n darparu atebion ynni adnewyddadwy – gan gynnwys ynni gwynt, dŵr, biomas a solar - yn buddsoddi £610,000 i ddatblygu eu busnes monitro gwynt er mwyn ateb y galw cynyddol am atebion ynni gwynt.
Bydd y buddsoddiad, sydd wedi’i ariannu’n rhannol gan y Gronfa Twf Economaidd, yn cael ei ddefnyddio i dalu am adeiladau newydd, prynu offer hanfodol ac uwchraddio seilwaith TG adran wynt y cwmni.
O ganlyniad i’r buddsoddiad, mae Dulas yn rhagweld y bydd yr adran datblygu ynni gwynt yn cynhyrchu £5m arall o refeniw dros y pedair blynedd nesaf wrth i’r gallu uwch eu caniatáu i ddarparu rhwydwaith gynyddol o brosiectau.
Bydd y buddsoddiad yn y busnes monitro gwynt yn creu saith o swyddi newydd, gan godi cyfanswm y gweithwyr ym mhencadlys y cwmni ym Machynlleth i dros 100.
Dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart ei bod yn falch bod y Gronfa Twf Economaidd wedi helpu’r cwmni sefydlog hwn i ehangu.
"Bydd y buddsoddiad yn helpu Dulas i gynyddu eu gweithlu, hybu eu trosiant, a chynyddu eu gallu gan arwain at gyflawni nifer o brosiectau ynni adnewyddadwy allweddol.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod y sector Ynni’n cael blaenoriaeth yn ein heconomi. Rydyn ni’n gweld y gall cwmnïau fel Dulas, gyda chefnogaeth, ennill manteision cystadleuol, elwa ar y marchnadoedd cynyddol o fewn y sector a chryfhau’r amodau sy’n creu swyddi a thwf economaidd cynaliadwy."
Dywedodd Mike Clay, rheolwr marchnata Dulas:
"Rydyn ni’n falch iawn o dderbyn y cymorth ariannol hwn gan y Gronfa Twf Economaidd. Eleni rydyn ni’n dathlu 30 mlynedd fel arloeswyr yn y sector ynni adnewyddadwy ac rydyn ni wedi gweld y farchnad ar gyfer technolegau o’r fath yn tyfu nes eu bod yn gyffredin iawn i ni erbyn heddiw.
"Mae ynni gwynt yn arbennig yn elfen hanfodol o’n cymysgedd o ynni ar gyfer y dyfodol ac fe fydd y buddsoddiad hwn yn ein galluogi i barhau i gefnogi datblygiad ffermydd gwynt masnachol a chymunedol ledled y DU.
"Mae Dulas wedi cyflenwi’r gallu i gynhyrchu dros 350MW drwy ffynonellau â ganiatawyd yn ystod ein 30 mlynedd yn y diwydiant datblygu ynni gwynt ac mae’n debyg y bydd y ffigwr hwn yn cynyddu’n sylweddol yn y dyfodol o ganlyniad i’r buddsoddiad."











