Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Helpu i ddatblygu Strategaeth Arloesi Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o gyfarfodydd agored yn ei swyddfeydd rhanbarthol er mwyn clywed barn y rheini sydd â diddordeb ar sut i wella perfformiad arloesi Cymru.
Dydd Gwener 01 Mehefin 2012

Mae’r cyfarfodydd yn rhan o ymgynghoriad Cymru gyfan ar ddatblygu Strategaeth Arloesi Cymru.

Bydd yn adeiladu ar y strategaeth Gwyddoniaeth I Gymru, a lansiwyd yn gynharach eleni, oedd yn nodi’r angen am strategaeth ategol gyfredol i ddelio ag elwa masnachol ymchwil a datblygu a hefyd hybu arloesedd.

Dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart ei bod am gael y farn ehangaf bosib ar y pwnc ac mae’r ymgynghoriad yn rhoi’r cyfle i ddylanwadu ar ddatblygu  strategaeth i Gymru.

“Mae arloesi yn cael ei gydnabod fel un o’r prif ffactorau ar gyfer twf economaidd a chreu gwaith. Mae’n cael ei ystyried gan nifer hefyd fel y ffordd orau y gall cymdeithas fynd i’r afael â heriau megis poblogaeth sy’n heneiddio a phrinder adnoddau ac i wella’r ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus.  

“Rydym am i’r holl randdeiliaid gyfranogi a nodi materion, gan awgrymu ffyrdd i wella perfformiad arloesi Cymru. Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn cymryd mantais o’r cyfarfodydd hyn.”

Bydd arbenigwyr arloesi hefyd wrth law yn y cyfarfodydd er mwyn trafod sut y gallant helpu busnesau unigol, a bydd gwybodaeth ar gael hefyd ar Gyllid a Chymorth Arloesi.

Dyma fanylion y cyfarfodydd:

  • 14 Mehefin – 09:00-12:00 – Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Merthyr
  • 19 Mehefin – 09:00-12:00 – Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Cyffordd Llandudno
  • 20 Mehefin – 09:00-12:00 – Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Aberystwyth

I archebu lle yn un o’r digwyddiadau hyn e-bostiwch innovationwales@wales.gsi.gov.uk neu ffoniwch 030 061 6043

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Ymgynghoriad ar ddatblygu Strategaeth Arloesi i Gymru

Tagiau

Busnes a'r economi 01 Mehefin 2012 Yr economi Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i