Roedd Mr Davies yn dathlu yn Ystad Ystagbwll yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol lle mae’r prosiect twristiaeth a chadwraeth ‘Ailddarganfod Ystagbwll’ wedi bod yn mynd rhagddo.
Mae’r prosiect yn werth £3 miliwn, £1.8 miliwn ohono gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru gan greu 12 o swyddi. Gyda’r arian, bu’n bosibl ailwampio’r ganolfan ymwelwyr a’r cyfleusterau llety ac ariannu rhaglen o weithgareddau addysgol a chadwraeth.
Dywedodd Mr Davies bod llawer o waith wedi cael ei wneud i droi’r safle’n atyniad cyffrous i dwristiaid a bydd y gweddnewidiad yn helpu i greu buddiannau economaidd i Sir Benfro a’r ardaloedd cyfagos.
Dywedodd:
“Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu buddsoddi arian Ewropeaidd yn y prosiect hwn ac rwy’n cydnabod gwaith caled y rhai sydd wedi bod wrthi’n sicrhau bod y prosiect hwn yn dwyn ffrwyth. Bydd y prosiect hwn yn denu ymwelwyr ac yn rhoi hwb i dwristiaeth yn y rhan unigryw hon o Gymru.
“Gan edrych ymlaen, rydym yn benderfynol o weld ein Rhaglenni Ewropeaidd ymysg y rhaglenni mwyaf llwyddiannus yn y Undeb Ewropeaidd am lunio amodau sy’n creu twf economaidd deallus, cynaliadwy a chynhwysol yn unol â strategaeth Ewrop 2020 a’r Rhaglen Lywodraethu.
“Rwyf nawr yn edrych ymlaen at ymgynghori ymhellach gyda phartneriaid yng Nghymru ar y ffordd orau i fuddsoddi unrhyw arian a gawn o Ewrop i’n helpu i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i greu swyddi a thwf economaidd a ffyniant i ddinasyddion Cymru.”
Tra roedd Mr Davies yn Ystagbwll, cafodd daith o amgylch y safle ac er nad yw wedi diystyru unrhyw ardal rhag cael arian, dywedodd y byddai’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd i sicrhau bod unrhyw arian a ddaw o Ewrop yn y dyfodol yn cael ei fuddsoddi mewn gweithgareddau sy’n dod â’r budd mwyaf i’r economi.
Dywedodd: “O’i gymharu â’r cyfnodau ariannu blaenorol, mae’r cyfnod hwn yn gyfnod economaidd anodd ac felly, mae’n rhaid i ni roi blaenoriaeth i’r heriau i’r economi a’r farchnad lafur fel y gallwn weddnewid a rhoi hwb i economi Cymru.”
Ychwanegodd Mr Davies y bydd y sector amgylchedd a thwristiaeth yn parhau i fod yn rhan bwysig o raglenni’r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru yn y dyfodol fel y mae pob un o sectorau allweddol eraill Llywodraeth Cymru.
Bydd ymgynghoriad llawn ar fanylion y Rhaglenni Ewropeaidd arfaethedig ar gyfer y cyfnod 2014-2020 yng Nghymru yn cael ei gynnal ddiwedd y flwyddyn.











