Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Dirprwy Weinidog yn ymweld â busnesau yn Nhalgarth

Mae'r Dirprwy Weinidog Amaeth, Bwyd a Physgodfeydd wedi gweld sut mae tri busnes bwyd a diod blaenllaw yn Nhalgarth yn cydweithio i wneud y pentref yn hafan i fwyd-garwyr.
Dydd Gwener 09 Mawrth 2012
Y Dirprwy Weinidog dros Amaethyddiaeth, Bwyd a Physgodfeydd gyda staff W.G. George
Y Dirprwy Weinidog dros Amaethyddiaeth, Bwyd a Physgodfeydd gyda staff W.G. George

Dechreuodd y Dirprwy Weinidog ei daith yn siop gigydd WJ George a’i Fab sy’n cael ei rhedeg gan Brian George, ei wraig a’i fab hynaf. Mae’r busnes teuluol hwn wedi ennill nifer o wobrau am ei gynnyrch ac mae’n arbenigo mewn cig eidion, cig oen a phorc o anifeiliaid o ffermydd lleol sydd wedi’u lladd yn lladd-dy’r busnes.

Yna, aeth ymlaen i Felin Talgarth i weld sut mae’r Prosiect Cymunedau Carbon Isel, a ariannwyd gan y Cynllun Datblygu Gwledig, wedi galluogi’r cwmni i ddatblygu prosiect ynni adnewyddadwy cymunedol fel rhan o strategaeth gynaliadwy i’r pentref. Ar ôl cael arian gan gronfa’r Loteri Fawr i adnewyddu’r felin, i adeiladu siop fara a chaffi a’i ddefnyddio fel canolfan adfywio, ymddangosodd y felin ar raglen Village SOS y BBC.

Mae’r caffi a’r siop fara’n cynhyrchu ac yn gwerthu bwyd a diod lleol tymhorol, gan gynnwys cig o siop Brian George, Caws Mynydd Du sy’n cael ei wneud o laeth defaid Lodge Farm yn Nhalgarth a siytni a jamiau Black Mountain Preserves sy’n defnyddio ffrwythau lleol.

Yn olaf, bu’n ymweld â Microfragdy traddodiadol Rotters yng Ngwesty’r Towers, sy’n defnyddio cynhwysion naturiol i fragu cwrw chwerw, cwrw du a chwrw golau. Mae modd trefnu teithiau o amgylch y bragdy hefyd.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

"Mae Talgarth wedi creu cryn argraff arnaf ac mae’n wych bod cymaint o gynhyrchwyr lleol yn cydweithio i sicrhau bod digon o fwyd lleol o ansawdd da bob amser ar gael i’r gymuned leol. Mae ymwelwyr â’r dref yn dewis dychwelyd dro ar ôl tro hefyd gan fod gan y dref gymaint i’w gynnig.

"Mae gennym gynhyrchwyr bwyd rhagorol yng Nghymru ac mae siopwyr yn fwy a mwy awyddus i brynu bwydydd lleol. Felly, mae cydweithio i sicrhau bod bwydydd o’r math hwn ar gael i bawb a sicrhau ei fod yn hawdd i’w adnabod yn gwneud synnwyr busnes perffaith. Mae’n galonogol iawn ei fod yn gweithio cystal yn Nhalgarth."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Prynu bwyd a diod o Gymru

Gwefannau

Cymru y Gwir Flas

Tagiau

Busnes a'r economi 09 Mawrth 2012 Yr economi Bwyd a physgodfeydd Bwyd lleol Y Canolbarth
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i