Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Arddangos sector gwyddorau bywyd deinamig Cymru

Yr wythnos hon, daw arbenigedd Cymru mewn Gwyddorau Bywyd dan y chwyddwydr pan ddaw grŵp o swyddogion tramor UK Trade and Investment (UKTI) i ymweld.
Dydd Mawrth 06 Mawrth 2012

Pwrpas yr ymweliad yw tynnu sylw at amrywiaeth y sector yng Nghymru, meysydd ymchwil a datblygu yn y sectorau preifat a chyhoeddus, cyfleon i gydweithredu a buddsoddi, yn ogystal â meysydd arbenigedd penodol.

Dywedodd Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, y byddai’r ymweliad (7 ac 8 Mawrth) yn gyfle gwych i hyrwyddo’r sector Gwyddorau Bywyd llewyrchus sydd gennym yng Nghymru,

"Mae’n gyfle gwych i Gymru arddangos ein cwmnïau gwyddorau bywyd gorau a chyfleusterau ymchwil o safon fyd-eang. Trefnwyd bod yr ymweliad yn digwydd cyn ein cynhadledd BioCymru 2012, a gaiff ei gynnal ar 13 ac 14 Mawrth, achlysur pwysig a fydd yn codi proffil sector Gwyddorau Bywyd Cymru ledled y byd.

"Bydd yn help i swyddogion tramor UKTI gael gwybod mwy am yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig a dod i ddeall y cyfleon sydd yma yng Ngymru."

O holl rannau’r daith, Cymru sydd wedi profi fwyaf poblogaidd. Bydd dau ddeg dau o swyddogion UKTI yn ymweld o wledydd fel China, India, Japan, Denmarc a’r Unol Daleithiau.

Bydd busnesau a phrifysgolion Cymru a thimau sector Llywodraeth Cymru hefyd yn gallu datblygu cysylltiadau agosach â UKTI a’i gynrychiolwyr tramor, er mwyn cynyddu mewnfuddsoddiad a phrosiectau cydweithredol yn y tymor hirach.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cinio rhwydweithio fin nos 7 Mawrth ar gyfer dirprwyaeth UKTI a rhanddeiliaid allweddol o sector Gwyddorau Bywyd Cymru.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Y sector Gwyddorau Bywyd

Tagiau

Busnes a'r economi 06 Mawrth 2012 Yr economi Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i