Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Dinas-ranbarthau, a gafodd ei sefydlu gan Edwina Hart, y Gweinidog Busnes ac sy’n cael ei gadeirio gan Dr Elizabeth Haywood, wedi amlinellu’r dystiolaeth y maen nhw wedi’i chasglu hyd yn hyn ar ddinas-ranbarthau ac wedi lansio adroddiad ar-lein.
Mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddir heddiw (dydd Llun 5 Mawrth) mae Mrs Hart yn pwysleisio ei bod hi’n bwysig cael mwy o sylwadau a chyfraniadau a fydd yn ffurfio rhan o ddadansoddiad a chanfyddiadau’r grŵp.
“Heddiw, rydym yn gwneud cais am dystiolaeth ac yn lansio adroddiad ar-lein ac rwy’n annog pobl i gyfrannu a chymryd rhan a dysgu o’r ymarfer hwn.
“Mae gwaith y grŵp yn parhau ac rwy’n edrych ymlaen at weld yr adroddiad terfynol a’r canlyniadau a fydd yn llywio’r hyn a wnawn yn y dyfodol.”
Mae’r adroddiad ar-lein yn cynnwys cyfres o gwestiynau i gynorthwyo’r ymatebwyr i roi tystiolaeth. Bydd yr ymatebion yn cael eu hystyried wrth baratoi’r adroddiad terfynol fydd yn cynnwys argymhellion i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Dr Haywood, cyfarwyddwr Fforwm Economaidd De-ddwyrain Cymru y bydd y Grŵp, gyda chymorth grwpiau ffocws ledled Cymru, yn parhau i gasglu tystiolaeth tan ddydd Mercher 18 Ebrill.
“Mae’r papur a gyhoeddir ar-lein yn ymwneud â rhan gyntaf o’n cylch gwaith sef y dystiolaeth ar gyfer cefnogi dinas-ranbarthau. Rydym wedi ystyried ymchwil sydd wedi cael ei chynnal yn y DU ac yn rhyngwladol a hoffem gael sylwadau ar ein canfyddiadau gan bobl sydd â diddordeb yn y mater hwn,” dywedodd.
“Mae’r adroddiad hefyd yn cyffwrdd ar agweddau eraill o’n cylch gwaith fel materion pwysig yr ydym ni’n credu sydd angen delio â nhw er mwyn i ddinas-ranbarthau lwyddo yng Nghymru, gan gynnwys cysylltiadau diwylliannol a sgiliau.
“Byddwn yn edrych yn fanylach ar y pynciau hyn yn ystod y cyfnod ymgynghori ac rydym yn croesawu’ch barn ar y pynciau hyn hefyd. Rydym yn gobeithio y cawn ymateb rhagorol i’n cais.”











