Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Llinell Amser y Gyllideb: beth sy’n digwydd nesaf?

Mae Llywodraeth Cymru bellach yn pennu manylion terfynol Cyllideb Ddrafft eleni.
Dydd Mercher 21 Medi 2011

Cyhoeddir y Gyllideb Ddrafft ar 4 Hydref, a chaiff y Gyllideb Derfynol ei chyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Rhagfyr.

Sut y mae proses y Gyllideb yn gweithio?
Bob blwyddyn, mae Cymru'n cael dyraniad  i'r Gyllideb oddi wrth Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu cynlluniau ar sut i wario'r Gyllideb. Cyflwynir y cynlluniau yn y Gyllideb Ddrafft sy'n cael ei gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol; mae Pwyllgorau'n craffu arni ac mae'n cael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn, cyn cael ei chymeradwyo'n ffurfiol gan y Cynulliad.

Pa feysydd y mae'r Gyllideb yn eu cwmpasu?
Mae Cyllideb Llywodraeth Cymru'n ariannu rhai o'n gwasanaethau cyhoeddus mwyaf hanfodol, gan gynnwys ysbytai, prifysgolion a cholegau, ffyrdd, gwasanaethau tân ac ambiwlans, a'r nifer mawr o wasanaethau, megis ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol, a ddarperir gan gynghorau.

Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru am y Gyllideb?
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae aelodau Cabinet Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried blaenoriaethau ar gyfer y Gyllideb arfaethedig, ac yn unol â Chyllideb Ddrafft y llynedd maent yn gweithio ar setliadau sy'n amddiffyn y bobl fwyaf agored i newid yng Nghymru ac yn cyflenwi  gwasanaethau cyhoeddus yn effeithlon yn seiliedig ar yr hyn y mae ar ddinasyddion Cymru ei angen, a  ble y mae arnynt ei angen.

Ni fydd manylion penodol am faint y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wario ar wahanol feysydd yn hysbys tan ddiwrnod y Gyllideb Ddrafft .

Dyddiadau Allweddol
Mae'r llinell amser isod yn amlinellu rhai o brif ddyddiadau proses cynllunio'r Gyllideb.

4 Hydref 2011
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Chyllideb Ddrafft. Mae'r Gyllideb Ddrafft  yn nodi sut y caiff yr adnoddau sydd ar gael eu dosbarthu rhwng portffolios y Gweinidogion a meysydd rhaglenni gwariant.
Hydref-Rhagfyr
Y Cynulliad yn craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru.
15 Tachwedd 2011
Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod y Gyllideb Ddrafft.
29  Tachwedd 2011
Y Gyllideb Derfynol yn cael ei gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
6 Rhagfyr 2011
Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod ac yn pleidleisio ar y Gyllideb Derfynol.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cyllidebau

Tagiau

Busnes a'r economi 21 Medi 2011 Cyllideb Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i