Dywedodd:
Mae craffu trylwyr a heriol wedi bod ar y gyllideb hon trwy gydol y broses, ac rwy’n hyderus y bydd y gyllideb derfynol yn cynnig cymorth yn y meysydd lle mae’r angen mwyaf.
Mae’r gyllideb yn ein galluogi i fwrw ymlaen â’r agenda Cymru’n Un, ac yn blaenoriaethu cyllid ychwanegol ar gyfer meysydd allweddol megis iechyd, addysg a thrafnidiaeth. Paratowyd y gyllideb hon yn yr hinsawdd economaidd fwyaf heriol ers i’r Cynulliad ddechrau gweithredu yn 1999. Rhagwelir y bydd y twf real cyfartalog yn y gyllideb yn 1.8% y flwyddyn yn ystod 2007 - 2011, sef canran is o lawer na’r cyfartaledd o 5.5% ar gyfer pum mlynedd cyntaf y Cynulliad.
Mae’r heriau a wynebwn yn rhai byd-eang, ac mae Llywodraeth y Cynulliad yn cymryd camau i helpu pobl Cymru trwy’r cyfnod economaidd anodd hwn. Rydym eisoes wedi gweithredu yn y meysydd lle mae’r angen mwyaf ac rydym yn gwneud cynnydd da, er gwaethaf yr amodau ariannol anodd. Trwy flaenoriaethu cadarn, cynllunio da a gweithio mewn partneriaeth rydym wedi cynhyrchu arbedion effeithlonrwydd ac wedi canfod dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau gwell.
Rwyf wedi dweud yn gyson mai canlyniadau ein buddsoddi yw’r peth hollbwysig i’n dinasyddion ni, ac nid lefelau’r cyllid. Rydym yn gwneud cynnydd, ond rhaid i ni sicrhau y darperir ein gwasanaethau mewn ffordd fwy effeithiol ac effeithlon - rhaid i bob punt y byddwn yn ei gwario wneud gwahaniaeth. Nid yw pobl Cymru’n disgwyl dim llai na hynny.
9 Rhagfyr 2008











