Y Gweinidog dros Dreftadaeth yn dathlu Pen-blwydd Cadw yn 25 oed gyda grantiau ar gyfer Adeiladau Hanesyddol Cymru
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cynnig grantiau rhwng £4,444 a £140,000 i gynnal gwaith trwsio ac adfer hanfodol ar yr adeiladau hyn.
Un o drysorau’r genedl sydd wedi cael cynnig grant i’w ddiogelu at y dyfodol yw Tal y Braich, Rhosgadfan, ger Caernarfon.
Meddai’r Gweinidog dros dreftadaeth, Alun Ffred Jones:
“Mae’n bleser gen i gynnig y grantiau hyn i drwsio adeiladau hanesyddol gan sicrhau y bydd rhai o’n hadeiladau pwysicaf yn cael eu hadfer a’u cynnal i genedlaethau’r dyfodol.
“Mae Tal y Braich yn destament grymus i’r bobl a oedd unwaith yn byw ac yn gweithio ar y tir gerwin hwn. Roedd adeiladau syml y werin bobl unwaith yn gyffredin yn yr ardal hon, ond mae eu tystiolaeth hanesyddol yn fregus gan fod y rhan fwyaf ohonynt wedi’u colli yn sgil cael eu haddasu a’u newid mewn ffordd ddigydymdeimlad. Nid yw’r bwthyn hwn wedi cael ei ddefnyddio ers y 1950au ac mae’r ffaith ei fod wedi goroesi yn destun rhyfeddod.
“Hoffwn hefyd longyfarch Cadw ar eu pen-blwydd yn 25 oed ac am eu gwaith dros y blynyddoedd o ddiogelu’n hamgylchedd hanesyddol. Dros y 25 mlynedd ddiwethaf, mae Cadw wedi dyrannu tua £70 miliwn ar gyfer adeiladau hanesyddol a henebion ar hyd a lled Cymru.”
Bydd y £646,472 yn cael ei rannu rhwng y prosiectau canlynol:
- Bob’s Bookshop, Trefyclo, Powys
Mae Bob’s Bookshop yn adeilad amlwg yn Nhrefyclo sy’n rhan nodedig o gymeriad y dref hanesyddol hon. Mae grant o £4,444 wedi’i gynnig tuag at roi to newydd a’r gwaith trwsio sy’n gysylltiedig â hynny. - Plas Coch, Llanedwen, Ynys Môn
Mae Plas Coch yn enghraifft odidog o dŷ bonedd gwledig o ddiwedd yr 16eg ganrif. Mae wedi’i adeiladu yn arddull y Dadeni cynnar ac mae wedi cadw llawer o’i nodweddion allanol gwreiddiol. Mae grant o £100,000 wedi’i gynnig tuag at gynllun cynhwysfawr i drwsio’r ffabrig hanesyddol. - Llanyrafon Manor, Llanyrafon, Cwmbrân, Tor-faen
Adeilad rhestredig gradd II* yw Maenor Llanyrafon. Dyma dŷ bonedd pwysig o’r 16eg i’r 17eg ganrif gyda nodweddion mewnol cain sydd wedi goroesi, yn enwedig ei le tân a’i bared. Mae grant o £120,000 wedi’i gynnig tuag at wneud gwaith trwsio cynhwysfawr. - Tal y Braich, Rhosgadfan, Caernarfon, Gwynedd
Bwthyn tyddynwr gyda beudy ynghlwm yw Tal y Braich. Mae wedi parhau mewn cyflwr rhyfeddol o dda a heb ei newid ers iddo gael ei adeiladu yn y 19eg ganrif. Mae grant o £52,500 wedi’i gynnig tuag at y gwaith o roi to newydd, ailbwyntio waliau a gosod ffenestri newydd. - Capel Bedyddwyr Adulam, Felin-foel, Llanelli, Sir Gaerfyrddin
Capel o ddiwedd y 19eg ganrif gan mwyaf yw Capel Adulam. Mae’r tu mewn yn wych, a chyda’i festri a’i fedyddfa, mae’n ffurfio cyfansawdd pensaernïol diddorol. Mae grant o £140,000 wedi’i gynnig tuag at wneud gwaith a fydd yn cynnwys rhoi to newydd, ail rendro a thrwsio’r ffenestri. - Cymdeithas Islamaidd Gwent, Victoria Road, Casnewydd
Yn wreiddiol roedd yr adeilad hwn yn gartref i’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig, ond mae bellach yn cael ei ddefnyddio gan Gymdeithas Islamaidd Gwent fel addoldy aml enwadol. Mae’r capel nodedig hwn o’r 19eg ganrif yn sefyll mewn lleoliad trawiadol yn y dref. Mae grant o £135,000 wedi’i gynnig tuag at gynllun cynhwysfawr o waith adfer a chadwraeth. - Eglwys Babyddol Our Lady & St Michael, Y Fenni, Sir Fynwy
Eglwys Babyddol gan J B Bucknall yw hon. Ef oedd un o benseiri mwyaf nodedig Oes Fictoria. Mae’r adeilad wedi’i ddylunio a’i orffen mewn modd cain ac mae wedi cadw llawer o’i gymeriad gwreiddiol. Mae grant o £36,000 wedi’i gynnig tuag at wneud gwaith trwsio a chadwraeth. - Churchbank, Lôn yr Eglwys/Church Lane, Biwmares, Ynys Môn
Tŷ Georgaidd sydd wedi’i gynnal a’i gadw cyflwr da yw hwn. Mae Church Bank yn adeilad o ansawdd a chymeriad sy’n sefyll mewn lle amlwg yn nhref Biwmares. Mae grant o £25,000 wedi’i gynnig tuag at adfer tu allan yr adeilad. - 1 Seaview, Bae Cemaes, Ynys Môn
Un o res hir o fythynnod oedd unwaith yn fythynnod pysgotwyr yw Sea View sy’n cyfrannu’n fawr at gymeriad ardal gadwraeth Bae Cemaes. Mae grant o £3,750 wedi’i gynnig tuag at y gwaith o roi drysau a ffenestri newydd fel y rhai gwreiddiol ym mlaen y tŷ. - 14 Albany Terrace, St Thomas Green, Hwlffordd, Sir Benfro
Mae 14 Albany Terrace o ddiddordeb hanesyddol arbennig fel un o res o dai isel o’r 18fed ganrif. Mae grant o £8,250 wedi’i gynnig tuag at y gwaith o drwsio tu allan yr adeilad. - 17 Hamilton Terrace, Aberdaugleddau, Sir Benfro
Mae’r tŷ hwn yn dyddio o 1800 ac yn rhan o rodfa lydan sy’n rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin mewn sefyllfa amlwg yn nhref Aberdaugleddau. Mae grant o £7,000 wedi’i gynnig tuag at y gwaith o drwsio tu allan yr adeilad. - 3 Bute Esplanade, Caerdydd
Mae 3 Bute Esplanade yn dŷ sydd wedi’i gadw mewn cyflwr da ers dyddiau cynnar datblygu ardal Butetown yng Nghaerdydd. Mae grant o £10,000 wedi’i gynnig tuag at drwsio cregyn allanol yr adeilad. - Cromlech House, Tŷ Ddewi, Sir Benfro
Dyma adeilad o ddiwedd Oes Fictoria sy’n sefyll yn ardal gadwraeth Tŷ Ddewi. Mae nodweddion gwreiddiol diddorol wedi goroesi. Mae grant o £4,528 wedi’i gynnig tuag at y gwaith o ail-greu’r nodweddion allanol.
29 Hydref 2009
