Skip to content

Is-ddeddfwriaeth

Dolenni perthnasol

Mae swyddfa'r Archifau Gwladol yn cyhoeddi gwybodaeth am Ddeddfau Seneddol a Gorchmynion Statudol.
Mae Deddfau Seneddol, Mesurau'r Cynulliad a Deddfau’r Cynulliad yn galluogi Gweinidogion Cymru i greu deddfwriaeth fanylach, fel arfer drwy gyfrwng Offerynnau Statudol. Gelwir y math hwn o ddeddfwriaeth yn is-ddeddfwriaeth.

Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus sy'n cyhoeddi Offerynnau Statudol cyffredinol. Gellir gweld Offerynnau Statudol o Gymru sydd o natur neu effaith leol, Gorchmynion Traffig er enghraifft, trwy glicio ar y ddolen sydd ar ochr dde’r dudalen hon.

Mae rhai cyfarwyddiadau, codau ymarfer, canllawiau etc a wneir gan neu gydag awdurdod Gweinidogion Cymru yn rhai nad ydyn nhw'n Offerynnau Statudol, gan eu bod yn ddeddfwriaethol eu natur. Cliciwch ar y ddolen sydd ar ochr chwith y dudalen hon i weld 'is-ddeddfwriaeth nad ydyw'n Offeryn Statudol'.