Skip to content

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Iechyd a Gwasanaethau Iechyd) 2011 (Yn ymwneud â Rhoi Organau)

Ar 10 Ionawr 2011, cyflwynodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) arfaethedig gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Tynnwyd y GCD yn ôl ar 9 Mawrth 2011 yn dilyn y referendum ar bwerau deddfu cynradd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Beth yw diben y GCD?

Pwrpas y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol yw rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud cyfreithiau i Gymru,  drwy Fesur y Cynulliad, ym maes caniatâd i roi organau.  Byddai cymhwysedd deddfwriaethol yn galluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn yn y dyfodol er mwyn darparu ar gyfer system caniatâd tybiedig o roi organau yng Nghymru.

Beth yw prif elfennau'r GCD?

Mae’r GCD yn ymwneud â rhoi caniatâd neu awdurdodiad arall i’r gweithgareddau canlynol, at y diben o drawsblannu i gorff dynol:

  • Cadw a defnyddio corff oedolyn sydd wedi marw;
  • Tynnu, storio a defnyddio unrhyw ddeunydd perthnasol sy’n ffurfio rhan o gorff o’r fath neu sy’n gynwysedig ynddo.

Sut i gael rhagor o wybodaeth?

I weld y ddogfennaeth gysylltiedig ag i gael rhagor o wybodaeth am hynt y Gorchymyn a’r gwaith craffu ar y Gorchymyn, ewch i wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gwefan Senedd y DU.